Archwilio Cymru – Adroddiad Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Hawdd ei Ddeall

Ebrill 2026 | Crynodeb o'r canfyddiadau am y system Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.

Buom yn gweithio gydag Archwilio Cymru i greu fersiwn Hawdd ei Ddeall o'u hadroddiad am y system Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn edrych ar a yw cyrff cyhoeddus yn gwybod os yw'r system ADY yn gweithio'n dda i blant a phobl ifanc. Mae'n esbonio sut mae'r system i fod i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, colegau a lleoliadau addysg eraill ledled Cymru.

Newidiodd y system ADY ar ôl deddf newydd yn 2018. Fe'i cynlluniwyd i helpu gwasanaethau i weithio'n well gyda'i gilydd a chefnogi pob dysgwr gyda Chynllun Datblygu Unigol. Mae'r adroddiad yn dangos bod y system yn dal i fod dan bwysau.

Nid yw cyrff cyhoeddus bob amser yn cael digon o wybodaeth am anghenion, staffio, costau a chanlyniadau dysgwyr. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach deall pa mor dda mae'r system yn gweithio ac i gynllunio a gwella cefnogaeth.

Mae Archwilio Cymru yn argymell casglu gwybodaeth well a mwy cyson am ddysgwyr, costau, staff a chanlyniadau. Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod y system ADY yn cefnogi plant a phobl ifanc yn fwy effeithiol nawr ac yn y dyfodol.

Fe wnaethom hefyd fersiwn Saersneg Hawdd ei Ddeall o'r adroddiad. Mae'r ddwy fersiwn yn hygyrch yn ddigidol ac wedi'u cynllunio i weithio gyda darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm coch Gweld a lawrlwytho'r adnodd hwn i agor PDF hygyrch yr adroddiad Hawdd ei Ddeall.

I gael rhagor o wybodaeth am Archwilio Cymru a'u gwaith, ewch i'w gwefan yma.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: [email protected].

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma

cyWelsh