{"id":781,"date":"2026-03-23T09:45:40","date_gmt":"2026-03-23T09:45:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.easyread.wales\/?p=781"},"modified":"2026-03-23T14:04:57","modified_gmt":"2026-03-23T14:04:57","slug":"2026-senedd-election-your-vote-matters","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/","title":{"rendered":"Etholiad y Senedd 2026 \u2013 Mae eich pleidlais yn bwysig!"},"content":{"rendered":"<p>Gan Laura Griffiths<\/p>\n<div class=\"standfirst\">\n<p>On <strong>Ar ddydd Iau 7 Mai 2026<\/strong>fe fydd pobl ar draws Cymru yn  pleidleisio yn\u00a0<strong>etholiad y Senedd<\/strong>. Mae hwn yn gyfle pwysig i ddewis pwy sy'n gwneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd, fel iechyd, addysg, trafnidiaeth a gwasanaethau cymorth yng Nghymru.<\/p>\n<\/div>\n<p>Mae'r blog yma yn s\u00f4n am:<\/p>\n<ul>\n<li>Y rhwystrau mae pobl anabl yn eu hwynebu i bleidleisio a chymryd rhan yn ddemocrataidd.<\/li>\n<li>Y gwaith rydyn ni'n ei wneud drwy'r <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/project\/barod-i-bleidleisio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Barod i Bleidleisio<\/strong><\/a> i gefnogi pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru i bleidleisio.<\/li>\n<li>Dyddiadau pwysig ar gyfer etholiad y Senedd 2026.<\/li>\n<li>Sut rydych chi\u2019n gallu paratoi i bleidleisio.<\/li>\n<li>Lle rydych chi\u2019n gallu cael gwybodaeth hygyrch am yr etholiad - gan gynnwys ein canllaw <a href=\"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/resource\/your-guide-to-voting-in-the-2026-senedd-election\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Hawdd ei Ddeall newydd i etholiad y Senedd 2026<\/a>.<\/li>\n<\/ul>\n<div class=\"sg-content-feature-full sg-secondary\">\n<p>Mae pleidleisio yn hawl sylfaenol. Fe ddylai pawb sy'n gymwys i bleidleisio allu cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu.<\/p>\n<p>Ond, mae llawer o bobl ag anabledd dysgu yn dal i wynebu rhwystrau i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, etholiadau a phleidleisio. Er enghraifft, fe wnaeth ymchwil yn 2019 ddarganfod nad oedd tua 1 o bob 3 o bobl yn y DU  yn gwybod bod gan bobl ag anabledd dysgu yr un hawl i bleidleisio \u00e2 phawb arall. <strong>Rhaid i hyn newid<\/strong>.<\/p>\n<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2><strong>Rhwystrau i bleidleisio<\/strong><\/h2>\n<p>Mae ymchwil o'r DU, Ewrop ac ar draws y byd yn dangos yn gyson bod pobl anabl yn llai tebygol o bleidleisio na phobl sydd ddim yn anabl. Mae hyn er gwaethaf ymchwil hefyd yn dangos bod pobl anabl yn ymwneud cymaint \u00e2 materion gwleidyddol \u00e2'r boblogaeth ehangach, ac weithiau hyd yn oed yn fwy felly.<\/p>\n<p><strong>Yn 2014 fe wnaeth Mencap gynnal arolwg i ddarganfod sut beth ydy pleidleisio i bobl ag anabledd dysgu. Fe wnaethon nhw ddarganfod:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Dywedodd 70% o bobl ag anabledd dysgu eu bod<strong> eisiau pleidleisio<\/strong>.<\/li>\n<li>Mae 64% o bobl ag anabledd dysgu wedi teimlo <strong>nad ydynt yn gallu pleidleisio<\/strong> mewn etholiadau blaenorol.<\/li>\n<li>Dywedodd 60% o bobl ag anabledd dysgu fod <strong>cofrestru i bleidleisio yn rhy anodd<\/strong>.<\/li>\n<li>Dywedodd 17% o bobl ag anabledd dysgu eu bod wedi cael eu <strong>troi i ffwrdd mewn gorsaf bleidleisio<\/strong> oherwydd eu hanabledd dysgu.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Mae llawer o bleidleiswyr anabl yn dal i brofi rhwystrau i gymryd rhan mewn etholiadau, gan gynnwys:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Peidio \u00e2 chael gwybodaeth hygyrch am y broses bleidleisio.<\/li>\n<li>Diffyg gwybodaeth am ddefnyddio cefnogwr i gael help gyda phleidleisio.<\/li>\n<li>Gorsafoedd pleidleisio anhygyrch, er enghraifft adeiladau sydd ddim yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, neu gymhorthion cynorthwyol sydd ddim ar gael i helpu pleidleiswyr.<\/li>\n<li>Doedd gan staff yr orsaf bleidleisio ddim yr hyfforddiant na'r hyder i gefnogi pleidleiswyr anabl.<\/li>\n<li>Pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr sydd ddim yn gwneud eu hymgyrchoedd yn hygyrch ac yn gynhwysol, gan gynnwys maniffestos Hawdd ei Ddeall sydd ddim yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd \u00e2'r prif maniffestos.<\/li>\n<\/ul>\n<hr \/>\n<h2><strong>Barod i Bleidleisio<\/strong><\/h2>\n<p class=\"translation-block\">Ym mis Ionawr 2026 lansiodd Anabledd Dysgu Cymru brosiect newydd o'r enw <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/project\/barod-i-bleidleisio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" style=\"font-size: 21px\"> prosiect Barod i Bleidleisio<\/a>.<\/p>\n<p>Mae\u2019r prosiectyn cael ei ariannu gan Grant Ymgysylltu Democrataidd Llywodraeth Cymru a'i nod ydy gwneud gwleidyddiaeth a phleidleisio yn fwy hygyrch i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.<\/p>\n<p>Yn y flwyddyn gyntaf fe fydd y prosiect yn canolbwyntio ar etholiad y Senedd 2026, a chefnogi pobl i gymryd rhan drwy:<\/p>\n<ul>\n<li>Cynnal gweithdai a sesiynau hyfforddi ar gyfer grwpiau o bobl ag anabledd dysgu ar draws Cymru.<\/li>\n<li>Gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol a'r Comisiwn Ffiniau i greu a rhannu gwybodaeth hygyrch, ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg am bleidleisio ac etholiadau.<\/li>\n<li>Cynnal digwyddiadau hygyrch, lle mae pobl ag anabledd dysgu yn gallu cyfarfod \u00e2'u hymgeiswyr lleol a thrafod y materion sy'n bwysig iddyn nhw.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Fel rhan o'r prosiect, rydyn ni wedi creu 2 ganllaw Hawdd ei Ddeall i gefnogi pobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan yn etholiad y Senedd 2026:<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/resource\/your-guide-to-voting-in-the-2026-senedd-election\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Eich canllaw i bleidleisio yn etholiad y Senedd 2026<\/strong><\/a><\/p>\n<p>Mae'r canllaw yma:<\/p>\n<ul>\n<li>Yn esbonio beth ydy'r Senedd a beth mae'n ei wneud.<\/li>\n<li>Yn tynnu sylw at pam mae eich pleidlais yn bwysig.<\/li>\n<li>Yn esbonio pwy sydd yn gallu pleidleisio a sut i bleidleisio.<\/li>\n<li>Yn cyfeirio darllenwyr i gael rhagor o gymorth a gwybodaeth.<\/li>\n<\/ul>\n<p><a href=\"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/resource\/senedd-election-2026-guide-for-candidates\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Canllaw etholiad y Senedd 2026 i ymgeiswyr <\/strong><\/a><\/p>\n<p>Mae'r canllaw yma:<\/p>\n<ul>\n<li>Yn helpu pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr i wneud eu hymgyrchoedd yn fwy hygyrch.<\/li>\n<li>Yn rhoi gwybodaeth am y Model Cymdeithasol o Anabledd, iaith, a darparu gwybodaeth hygyrch.<\/li>\n<li>Yn rhoi trosolwg byr o rai o'r materion a'r pryderon mwyaf y mae pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn eu hwynebu.<\/li>\n<\/ul>\n<p class=\"translation-block\">Os hoffech ddod o hyd i fwy o adnoddau pleidleisio Hawdd ei Ddeall,  cymryd rhan yn y prosiect, neu gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith, ewch i dudalen prosiect Anabledd Dysgu Cymru yn <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/project\/barod-i-bleidleisio\/\" target=\"_blank\" style=\"font-size: 21px\">Barod i Bleidleisio<\/a>.<\/p>\n<hr \/>\n<h2><strong>Dyddiadau pwysig<\/strong><\/h2>\n<p>Mae sawl dyddiad allweddol i fod yn ymwybodol ohonyn nhw yn y cyfnod cyn Etholiad y Senedd 2026.<\/p>\n<div class=\"standfirst\">\n<p><strong>4pm ddydd Gwener 10 Ebrill 2026<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<p>Erbyn y dyddiad yma fe fydd y rhestr lawn o ymgeiswyr sy'n sefyll yn eich ardal bleidleisio yn cael ei gadarnhau.<\/p>\n<p>Rydych chi\u2019n gallu defnyddio gwefan y Comisiwn Etholiadol i ddarganfod pwy ydy eich ymgeiswyr, ble mae eich gorsaf bleidleisio a phwy i gysylltu \u00e2 nhw os ydych chi angen help: <a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/cy\/rwyf-yneg-pleidleisiwr\/pleidleisiwr\/gwybodaeth-etholiad\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">www.electoralcommission.org.uk\/cy\/rwyf-yneg-pleidleisiwr\/pleidleisiwr\/gwybodaeth-etholiad<\/a><\/p>\n<p>Rydych chi hefyd yn gallu defnyddio'r <a href=\"https:\/\/whocanivotefor.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">wefan Pwy alla i bleidleisio drosto<\/a>, i ddysgu am yr ymgeiswyr yn eich ardal bleidleisio.<\/p>\n<hr \/>\n<div class=\"standfirst\">\n<p><strong>Hanner nos Dydd Llun 20 Ebrill 2026<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<p>Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio. <strong>Mae gennych tan hanner nos ar yr 20 Ebrill i gofrestru.<\/strong> Dydych chi ddim yn gallu pleidleisio yn bersonol, drwy'r post neu drwy ddirprwy os nad ydych chi wedi cofrestru yn gyntaf.<\/p>\n<p>Rydych chi\u2019n gallu cofrestru ar-lein yma: <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/register-to-vote\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gov.uk\/register-to-vote<\/a><\/p>\n<hr \/>\n<div class=\"standfirst\">\n<p><strong>5pm ddydd Mawrth 21 Ebrill 2026<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<p>Dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost.<\/p>\n<p>I wneud cais am bleidlais drwy'r post, mae angen i chi lawrlwytho, argraffu a phostio ffurflen bapur, sydd ar gael ar-lein yma: <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/apply-for-a-postal-vote\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gov.uk\/government\/publications\/apply-for-a-postal-vote<\/a><\/p>\n<p>Os ydych chi angen help  gyda'ch ffurflen, cysylltwch \u00e2'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol. Gallwch ddod o hyd i'ch un chi yma: <u><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/contact-electoral-registration-office\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gov.uk\/contact-electoral-registration-office<\/a><\/u><\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong style=\"color: #0069a0;\">5pm ddydd Mawrth 28 Ebrill 2026<\/strong><\/p>\n<p>Dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.<\/p>\n<p>I wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad y Senedd 2026, mae angen i chi lawrlwytho, argraffu ac anfon ffurflen bapur. Rydych chi\u2019n gallu darganfod mwy ar <a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/cy\/pleidleisio-ac-etholiadau\/ffyrdd-i-bleidleisio\/gwneud-cais-i-bleidleisio-drwy-ddirprwy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">wefan y Comisiwn Etholiadol<\/a>. Dydych chi ddim yn gallu gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad y Senedd.<\/p>\n<p>Os ydych chi angen help, cysylltwch \u00e2'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol. Rydych chi\u2019n gallu dod o hyd i'ch un chi yma: <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/contact-electoral-registration-office\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gov.uk\/contact-electoral-registration-office<\/a><\/p>\n<hr \/>\n<div class=\"standfirst\">\n<p><strong>7am i 10pm ddydd Iau 7 Mai 2026<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<p>Diwrnod yr etholiad. Rydych chi\u2019n gallu mynd i'r orsaf bleidleisio sydd wedi ei enwi ar eich cerdyn pleidleisio rhwng 7am a 10pm ddydd Iau 7 Mai i bleidleisio.<\/p>\n<p><span class=\"sg-intro sg-primary\"><strong>Mewn argyfwng<\/strong><\/span><\/p>\n<p>Mae gennych tan<strong> 5pm ddydd Iau 7 Mai<\/strong> i:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwnewch gais am <strong>bleidlais bost newydd <\/strong>os ydych chi wedi ei cholli neu wedi gwneud camgymeriad.<\/li>\n<li>Gwnewch gais am <strong>ddirprwy brys<\/strong>. Ond mae'n rhaid i chi gael rheswm a phrawf da. Er enghraifft, argyfwng meddygol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mewn argyfwng, cysylltwch \u00e2'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol ar unwaith. Rydych chi\u2019n gallu dod o hyd i'ch un chi yma: <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/contact-electoral-registration-office\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gov.uk\/contact-electoral-registration-office<\/a><\/p>\n<hr \/>\n<h2><strong>Paratoi ar gyfer yr etholiad<\/strong><\/h2>\n<p class=\"translation-block\"><span class=\"sg-intro sg-primary\" style=\"font-size: 32px\">Beth rydych <strong style=\"font-size: 32px\">chi<\/strong> yn gallu ei wneud:<\/span><\/p>\n<div class=\"standfirst\">\n<p><strong>Cofrestrwch i bleidleisio! <\/strong><\/p>\n<\/div>\n<p>Dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru, oni bai eich bod yn newid eich enw neu gyfeiriad. Os nad ydych yn si\u0175r a ydych wedi cofrestru, cysylltwch \u00e2'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol i weld: <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/contact-electoral-registration-office\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gov.uk\/contact-electoral-registration-office<\/a><\/p>\n<p>Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi gwneud fideo am gofrestru i bleidleisio: <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=8gA39IsJn4U\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Fideo sut i gofrestru i bleidleisio'r Comisiwn Etholiadol<\/a><\/p>\n<hr \/>\n<div class=\"standfirst\">\n<p><strong>Cael gwybodaeth<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<p>Darllenwch am beth sydd angen i chi ei wneud i bleidleisio a pharatoi. Mae dolenni i wybodaeth hygyrch ar ddiwedd y blog yma, a rydych chi hefyd yn gallu darllen ein <strong><a href=\"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/resource\/your-guide-to-voting-in-the-2026-senedd-election\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">canllaw Hawdd ei Ddeall i bleidleisio yn etholiad y Senedd 2026<\/a>.<\/strong><\/p>\n<hr \/>\n<div class=\"standfirst\">\n<p><strong>Penderfynu dros bwy i bleidleisio <\/strong><\/p>\n<\/div>\n<p>Mae hi\u2019n gallu bod yn anodd penderfynu dros bwy i bleidleisio. Cofiwch mai eich dewis chi ydy hi a does neb yn gallu dweud wrthych chi dros bwy i bleidleisio.<\/p>\n<p>Mae\u2019n gallu bod yn help  siarad \u00e2 theulu a ffrindiau am beth sy'n bwysig i chi. Ac edrychwch dros beth mae'r ymgeiswyr a'r pleidiau gwleidyddol yn eich ardal bleidleisio yn sefyll amdano.<\/p>\n<p>I ddysgu am yr ymgeiswyr a'r pleidiau gwleidyddol yn eich ardal chi, edrychwch ar wefan <a href=\"https:\/\/whocanivotefor.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Pwy alla i bleidleisio drosto<\/strong><\/a><strong>.<\/strong><\/p>\n<p>Fe fydd pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr yn rhannu maniffesto, yn esbonio beth maen nhw'n credu ynddo a beth ydy eu cynlluniau os ydyn nhw'n ennill. Rydych chi\u2019n gallu gofyn i'ch ymgeiswyr lleol a oes ganddyn nhw fersiynau Hawdd ei Ddeall o'u maniffestos.<\/p>\n<p>Fideo y Comisiwn Etholiadol \u2013 <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=JXAdOgIPl9o\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Hysbysebion Ymgyrch Etholiad yng Nghymru<\/a><\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>Maniffesto Hawdd ei Ddeall- Pleidiau Gwleidyddol:<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<div class=\"standfirst\">\n<p><strong>Maniffesto sefydliadau pobl anabl:<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/anabledd-dysgu-cymru-yn-cyhoeddi-ei-maniffesto-ar-gyfer-etholiad-y-senedd-2026\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Maniffesto Anabledd Dysgu Cymru 2026<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/allwalespeople1st.co.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/W-Manifesto-2026-1.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Maniffesto Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan 2026<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.disabilitywales.org\/o-oroesi-i-ffynnu-maniffesto-pobl-anabl-2026-2031\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Maniffesto Anabledd Cymru 2026 - 2031<\/a><\/p>\n<hr \/>\n<div class=\"standfirst\">\n<p><strong>Gofalwyr a chefnogwyr<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<p>Mae gofalwyr a chefnogwyr yn aml yn chwarae r\u00f4l bwysig wrth helpu pobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan mewn etholiadau. Mae ymchwil yn awgrymu bod 97% o bobl ag anabledd dysgu yn dweud eu bodnhw  angen help i bleidleisio.  Rydych chi\u2019n gallu helpu rhywun rydych chi'n gofalu amdano i bleidleisio, darganfyddwch fwy am gefnogi rhywun rydych chi'n gofalu amdano:<\/p>\n<ul>\n<li>Canllawiau i Ofalwyr - <a href=\"https:\/\/www.myvotemyvoice.org.uk\/supporting-voters\/i-am-a-carer-or-support-worker\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gwefan Fy Mhleidlais Fy Llais<\/a>.<\/li>\n<li>Y Comisiwn Etholiadol - <a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/media\/12541\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Canllaw i ofalwyr sy'n cefnogi pobl i bleidleisio<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<hr \/>\n<div class=\"standfirst\">\n<p><strong>Cysylltwch \u00e2'ch cyngor cyn yr etholiad<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<p>Os ydych chi'n meddwl eich bod efallai angen help yn yr orsaf bleidleisio, siaradwch \u00e2'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol cyn diwrnod yr etholiad. Maen nhw'n trefnu etholiadau yn eich ardal leol. Maen nhw\u2019n gallu:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwneud yn si\u0175r bod gennych yr offer rydych chi ei angen i'ch helpu i bleidleisio.<\/li>\n<li>Ateb unrhyw gwestiynau am eich gorsaf bleidleisio.<\/li>\n<li>Helpu chi i gynllunio'ch ymweliad \u00e2'r orsaf bleidleisio.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Rydych chi\u2019n gallu dod o hyd i'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol yma: <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/contact-electoral-registration-office\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gov.uk\/contact-electoral-registration-office<\/a><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Mae rhagor o wybodaeth am <a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/gwybodaeth-am-bleidleisio\/pleidleisio-hygyrch\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" style=\"font-size: 21px\">gefnogaeth i bleidleisio ar wefan Pleidleisio.Cymru<\/a> .<\/p>\n<p>Rydych chi hefyd yn gallu gweld ydy eich gorsaf bleidleisio ar gael ar wefan <a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Pleidleisio.Cymru<\/a> . Rhowch eich cod post i mewn i ddod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio. Fe fydd y wefan yn dweud wrthych chi  bethau fel a oes parcio i'r anabl, os oes grisiau a rampiau, ac os oes gan yr adeilad ddolen glywed.<\/p>\n<hr \/>\n<h2><strong>Mwy o gymorth a gwybodaeth hygyrch<\/strong><\/h2>\n<p>Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol, sy'n rhan o<strong>\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/www.cdffc.llyw.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru<\/a>, wedi creu gwefan newydd o'r enw <a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Pleidleisio.Cymru<\/a>. Mae'r wefan yn ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth am bleidleisio, ac mae'n cynnwys gwybodaeth Hawdd ei Ddeall am:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/gwybodaeth-am-bleidleisio\/sut-mae-r-system-bleidleisio-yn-gweithio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Sut mae'r system bleidleisio yn gweithio<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/gwybodaeth-am-bleidleisio\/sut-i-bleidleisio-mewn-gorsaf-bleidleisio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Sut i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/gwybodaeth-am-bleidleisio\/sut-i-bleidleisio-drwyr-post\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Sut i bleidleisio drwy'r post<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/gwybodaeth-am-bleidleisio\/sut-i-bleidleisio-drwy-ddirprwy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Sut i bleidleisio trwy ddirprwy<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/gwybodaeth-am-bleidleisio\/pleidleisio-hygyrch\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Pa gefnogaeth rydych chi\u2019n gallu ei gael i bleidleisio<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/gwybodaeth-am-bleidleisio\/pwy-all-bleidleisio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Pwy sydd yn gallu pbleidleisio<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/ynglyn-a-r-senedd\/beth-ywr-senedd\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Beth ydy'r Senedd<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/bwrwpleidlais.cymru\/ynglyn-a-r-senedd\/beth-maer-senedd-yn-ei-wneud\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Beth mae'r Senedd yn ei wneud<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<hr \/>\n<h2><strong>Adnoddau defnyddiol eraill:<\/strong><\/h2>\n<ul>\n<li>Anabledd Dysgu Cymru - <a href=\"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/resource\/your-guide-to-voting-in-the-2026-senedd-election\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>canllaw Hawdd ei Ddeall i bleidleisio yn etholiad y Senedd 2026<\/strong><\/a><\/li>\n<li><strong>Llinell gymorth y Comisiwn Etholiadol: 0800 328 0280<\/strong> \u2013 maen n hw yn gallu eich helpu i gofrestru i bleidleisio neu eich helpu i gysylltu \u00e2'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol.<\/li>\n<li>Fideo y Senedd \u2013 <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=qPSJcCpAaNY\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Sut mae Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol? <\/strong><\/a><\/li>\n<li>PDF y Senedd - <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Your-Senedd-is-Changing-Welsh.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Canllaw Hawdd ei Ddeall ar newidiadau i'r Senedd<\/strong><\/a><\/li>\n<li>Fideo y Comisiwn Etholiadol \u2013 <a href=\"https:\/\/vimeo.com\/1161093129\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Gwybodaeth i Bleidleiswyr Cymru 2026<\/strong><\/a>. Mae'r fideo yma  yn esbonio sut mae'r system bleidleisio yn gweithio a sut i farcio'ch pleidlais ar eich papur pleidleisio.<\/li>\n<li>Y Comisiwn Etholiadol - <a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/sites\/default\/files\/2026-02\/ECO1752_Voter-Info-Booklet_Ballot-Paper_v1-0.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Ffug bapur pleidleisio<\/strong><\/a><\/li>\n<li>Canllaw Hawdd ei Ddeall gan Lywodraeth y DU <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/registering-to-vote-easy-read-form.cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>ar gyfer cofrestru i bleidleisio<\/strong><\/a><\/li>\n<li>Canllaw Hawdd ei Ddeall gan Lywodraeth y DU <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/apply-for-a-postal-vote-easy-read-guide\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost<\/strong><\/a><\/li>\n<li>Canllaw Hawdd ei Ddeall gan Lywodraeth y DU <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/apply-for-a-proxy-vote-easy-read-guide\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy<\/strong><\/a><\/li>\n<\/ul>\n<hr \/>\n<p>Mae\u2019n gallu cymryd ychydig o amser i baratoi ar gyfer yr etholiad i wneud i bleidleisio deimlo'n llawer haws. Gyda'r wybodaeth a'r gefnogaeth hygyrch gywir, mae pobl ag anabledd dysgu yn gallu cymryd rhan yn hyderus.<\/p>\n<p>Mae pleidleisio yn un ffordd o gael eich llais wedi ei glywed. Mae pawb yn haeddu'r cyfle i ddeall y broses, gwneud eu dewis eu hunain, a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>By Laura Griffiths On Thursday 7 May 2026, people across\u00a0Wales\u00a0will vote in the\u00a0Senedd election. This is an important chance to choose who makes decisions about things that affect our daily &hellip;<\/p>","protected":false},"author":4,"featured_media":783,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[17,1,42,16],"tags":[],"class_list":["post-781","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-advice","category-general","category-news","category-resources"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.7 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>2026 Senedd Election \u2013 Your Vote Matters! - Easy Read Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"2026 Senedd Election \u2013 Your Vote Matters! - Easy Read Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"By Laura Griffiths On Thursday 7 May 2026, people across\u00a0Wales\u00a0will vote in the\u00a0Senedd election. This is an important chance to choose who makes decisions about things that affect our daily &hellip;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Easy Read Wales\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-03-23T09:45:40+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-03-23T14:04:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rights-Disabled.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"480\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"480\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Laura Griffiths\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Laura Griffiths\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/\"},\"author\":{\"name\":\"Laura Griffiths\",\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/#\/schema\/person\/5067e67795561d153e3451db28cc84ac\"},\"headline\":\"2026 Senedd Election \u2013 Your Vote Matters!\",\"datePublished\":\"2026-03-23T09:45:40+00:00\",\"dateModified\":\"2026-03-23T14:04:57+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/\"},\"wordCount\":1772,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rights-Disabled.png\",\"articleSection\":[\"Advice\",\"General\",\"News\",\"Resources\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/\",\"url\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/\",\"name\":\"2026 Senedd Election \u2013 Your Vote Matters! - Easy Read Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rights-Disabled.png\",\"datePublished\":\"2026-03-23T09:45:40+00:00\",\"dateModified\":\"2026-03-23T14:04:57+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rights-Disabled.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rights-Disabled.png\",\"width\":480,\"height\":480,\"caption\":\"Rights Disabled\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"2026 Senedd Election \u2013 Your Vote Matters!\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/\",\"name\":\"Easy Read Wales\",\"description\":\"Learning Disability\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/#organization\",\"name\":\"Easy Read Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/easy-read-wales-logo-colour.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/easy-read-wales-logo-colour.svg\",\"width\":1,\"height\":1,\"caption\":\"Easy Read Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/#\/schema\/person\/5067e67795561d153e3451db28cc84ac\",\"name\":\"Laura Griffiths\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5188d19c3844e1a557c3c7dea87da3887a8159510986ea64e0dbabd552cd67ba?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5188d19c3844e1a557c3c7dea87da3887a8159510986ea64e0dbabd552cd67ba?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Laura Griffiths\"},\"url\":\"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/author\/laura-griffithsldw-org-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"2026 Senedd Election \u2013 Your Vote Matters! - Easy Read Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"2026 Senedd Election \u2013 Your Vote Matters! - Easy Read Wales","og_description":"By Laura Griffiths On Thursday 7 May 2026, people across\u00a0Wales\u00a0will vote in the\u00a0Senedd election. This is an important chance to choose who makes decisions about things that affect our daily &hellip;","og_url":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/","og_site_name":"Easy Read Wales","article_published_time":"2026-03-23T09:45:40+00:00","article_modified_time":"2026-03-23T14:04:57+00:00","og_image":[{"width":480,"height":480,"url":"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rights-Disabled.png","type":"image\/png"}],"author":"Laura Griffiths","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Laura Griffiths","Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/"},"author":{"name":"Laura Griffiths","@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/#\/schema\/person\/5067e67795561d153e3451db28cc84ac"},"headline":"2026 Senedd Election \u2013 Your Vote Matters!","datePublished":"2026-03-23T09:45:40+00:00","dateModified":"2026-03-23T14:04:57+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/"},"wordCount":1772,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rights-Disabled.png","articleSection":["Advice","General","News","Resources"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/","url":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/","name":"2026 Senedd Election \u2013 Your Vote Matters! - Easy Read Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rights-Disabled.png","datePublished":"2026-03-23T09:45:40+00:00","dateModified":"2026-03-23T14:04:57+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rights-Disabled.png","contentUrl":"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rights-Disabled.png","width":480,"height":480,"caption":"Rights Disabled"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/2026-senedd-election-your-vote-matters\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.easyread.wales\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"2026 Senedd Election \u2013 Your Vote Matters!"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/#website","url":"https:\/\/www.easyread.wales\/","name":"Hawdd ei Ddeall Cymru","description":"Learning Disability","publisher":{"@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.easyread.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/#organization","name":"Hawdd ei Ddeall Cymru","url":"https:\/\/www.easyread.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/easy-read-wales-logo-colour.svg","contentUrl":"https:\/\/www.easyread.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/easy-read-wales-logo-colour.svg","width":1,"height":1,"caption":"Easy Read Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/#\/schema\/person\/5067e67795561d153e3451db28cc84ac","name":"Laura Griffiths","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.easyread.wales\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5188d19c3844e1a557c3c7dea87da3887a8159510986ea64e0dbabd552cd67ba?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5188d19c3844e1a557c3c7dea87da3887a8159510986ea64e0dbabd552cd67ba?s=96&d=mm&r=g","caption":"Laura Griffiths"},"url":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/author\/laura-griffithsldw-org-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/781","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=781"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/781\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/783"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=781"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=781"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.easyread.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=781"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}