Croeso i Hawdd ei Ddeall Cymru

Gweld tudalen Hawdd ei Ddeall

Gwnewch eich gwybodaeth yn glir ac yn hygyrch

Rydym yn arbenigo mewn creu dogfennau Hawdd ei Ddeall sy'n symleiddio gwybodaeth gymhleth, gan ei gwneud yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb

Gadewch i'n tîm cyfeillgar, medrus drawsnewid eich cynnwys:

Gofynnwch am ddyfynbris am ddim    Cael ein newyddlen

Yr hyn rydym yn ei wneud

Gall ein tîm arbenigol drawsnewid eich gwybodaeth yn hawdd ei ddeall trwy:

  • Symleiddio'ch testun i iaith glir, hawdd ei ddeall sy'n bodloni safonau cydnabyddedig Hawdd ei Ddeall.
  • Dylunio deunyddiau sy'n cyd-fynd â'ch brandio, gan ddefnyddio Photosymbols i helpu dealltwriaeth.
  • Darparu PDF proffesiynol, hygyrch Hawdd ei Ddeall, yn barod i'w ddefnyddio ar-lein a'i argraffu.

Rydym hefyd yn creu fideos Hawdd ei Ddeall, ac yn darparu dogfennau Iaith Glir, Print Bras, a Chyfeillgar i Ieuenctid. Mae ein holl wasanaethau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Gadewch i ni eich helpu i gysylltu â mwy o'ch cynulleidfa mewn ffordd ystyrlon, gynhwysol.

Ein gwasanaethau

A layout of 20 Easy Read covers

Cymorth ac adnoddau

Rydym am gynyddu argaeledd gwybodaeth hygyrch i bobl ag anableddau dysgu a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Hawdd ei Ddeall. Os hoffech gael help neu gefnogaeth, cysylltwch â ni.

Rydym yn darparu ymgynghoriad a byddwn yn gweithio gyda chi i'ch helpu i greu eich gwybodaeth Hawdd ei Ddeall eich hun, o benderfynu beth ddylid ei wneud yn Hawdd ei Ddeall, i wirio eich drafftiau Hawdd ei Ddeall.

Gallwch hefyd gael mynediad at ein hadnoddau Hawdd ei Ddeall am ddim, gan gynnwys:

  • Fideos hyfforddi
  • Canllawiau ar gyfer ysgrifennu Cymraeg a Saesneg Hawdd ei Ddeall
  • Ein geiriadur diffiniadau
Ein hadnoddau
Easy Read Wales resource materials on a table.

Pam dewis Hawdd ei Ddeall Cymru?

Rydym yn arbenigwyr blaenllaw mewn hygyrchedd, gydag ymdiriedaeth sefydliadau ledled y DU. Dyma pam:

  • Arbenigedd profedig – Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, rydym yn rhagori wrth wneud gwybodaeth yn hygyrch.
  • Ymddiriedaeth – Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau mawr eraill.
  • Cyffyrddiad personol – Rydym yn teilwra pob prosiect Hawdd ei Ddeall i'ch anghenion chi ac anghenion eich cynulleidfa.
  • Gwasanaethau dwyieithog – Rydym yn darparu Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg a Saesneg.
  • Canolbwyntio ar y defnyddiwr - Rydym yn blaenoriaethu anghenion pobl sy'n dibynnu ar Hawdd ei Ddeall.
  • Gwerthoedd dielw – Mae pob prosiect yn cefnogi gwaith ein helusen i rymuso pobl ag anabledd dysgu.

Dysgu mwy amdanom ni

Young Man Reading A non Easy Read Document

Learning Disability Wales Logo
Rydym yn falch o fod yn rhan o'r elusen Anabledd Dysgu Cymru. Mae pob prosiect rydym yn ei gwblhau yn helpu i hyrwyddo ein cenhadaeth – i fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.

Beth ydy Hawdd ei Ddeall?

Mae Hawdd ei Ddeall yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn syml, gan ei gwneud hi'n haws i bobl ei ddeall. Mae Hawdd ei Ddeall yn defnyddio:

  • Geiriau clir mewn brawddegau byr.
  • Lluniau i esbonio syniadau.
  • Digon o ofod gwyn er eglurder.

Gall Hawdd ei Ddeall helpu pawb, gan gynnwys:

  • Pobl ag anabledd dysgu.
  • Unrhyw un sy'n cael trafferth gyda thestun safonol.
  • Pobl sy'n dysgu Cymraeg neu Saesneg.

Pam mae Hawdd ei Ddeall yn bwysig

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i sefydliadau ddarparu gwybodaeth hygyrch. Mae gwybodaeth hygyrch yn grymuso pobl i:

  • Bod yn fwy annibynnol.
  • Cael mynediad at wasanaethau fel iechyd, gofal ac addysg.
  • Cymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.
  • Bod yn rhan weithgar o'u cymuned a'u gweithle.
Dysgu mwy am Hawdd ei Ddeall

Cleientiaid diweddar

Rydym wedi partneru â llawer o sefydliadau blaenllaw, gan gynnwys:

Llywodraeth Cymru
Equality and Human Rights Commission
GIG
Cyngor Celfyddydau Cymru
Gofalwyr y DU

Rhai o'n gwaith diweddar:

Cysylltu â ni

Yn barod i wneud eich cynnwys yn gliriach ac yn fwy cynhwysol?

Oes gennych chi ddogfen sydd angen ei throsi'n Hawdd ei Ddeall?
Anfonwch y ddogfen i ni mewn unrhyw fformat, a byddwn yn darparu dyfynbris cyflym, heb rwymedigaeth.

Gofynnwch am ddyfynbris am ddim

 

Rydyn ni’n gwneud gwybodaeth yn glir ac yn hawdd ei ddeall

Approved 1 Grande

Ein prif waith ydy gwneud gwybodaeth hawdd ei ddeall o ansawdd uchel. Rydyn ni’n:

 

  • Ysgrifennu testun clir, hawdd ei ddeall
  • Dylunio gwybodaeth gan ddefnyddio Photosymbols
  • Gwneud PDFs i'w ddarllen ar-lein neu i'w argraffu
Info Easy Read 1024x1024

Rydyn ni hefyd yn gwneud:

  • Dogfennau iaith glir – iaith bob dydd i bob darllenydd
  • Print bras
  • Fideos Hawdd ei Ddeall
  • Dogfennau sy'n gyfeillgar i ieuenctid
Alternative Formats

Cymorth a chanllawiau

 

Rydyn ni’n gallu eich helpu i wneud eich Hawdd ei Ddeall eich hun:

 

Easy Read Wales Resources

Pam dewis Hawdd ei Ddeall Cymru?

 

Rydym yn rhan o Anabledd Dysgu Cymru.

 

Mae gennym ni lawer o sgiliau a phrofiad. Rydyn ni wedi bod yn gwneud Hawdd ei Ddeall ers dros 20 mlynedd.

 

Learning Disability Wales Logo

 

Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu ac yn gwrando ar eu hanghenion.

 

Mae'r arian rydyn ni'n ei wneud yn cefnogi Anabledd Dysgu Cymru.

 

Group 71

 

Mae llawer o sefydliadau yn ymddiried ynom ni.

 

Rydyn ni’n gwneud Hawdd ei Ddeall o ansawdd uchel yn Gymraeg a Saesneg.

 

Quality Checker 1 Woman

 

Rydyn ni’n gweithio gyda chi i gyd-fynd ag arddull eich sefydliad ac ateb anghenion y bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw.

Dysgu mwy amdanom ni

 

Handshake 3

Pam mae Hawdd ei Ddeall yn bwysig

 

Yn ôl y gyfraith, mae gennych yr hawl i gael gwybodaeth mewn ffordd rydych chi’n gallu ei ddeall.

 

Mae'n bwysig oherwydd:

  • Mae'n eich helpu i wneud eich penderfyniadau eich hun.
  • Mae'n ei gwneud hi'n haws i chi gymryd rhan a chael eich cynnwys yn eich cymuned.

 

Mae'n helpu i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael mynediad cyfartal at wasanaethau, fel iechyd ac addysg.

Advocate6

 

Rydych chi’n gallu gofyn i wasanaethau roi gwybodaeth i chi mewn ffordd rydych chi’n gallu ei ddeall.

 

Darllenwch ein canllaw Gofyn am Hawdd ei Ddeall

 

Rydych chi’n gallu gweld rhai o'r dogfennau Hawdd ei Ddeall rydyn ni wedi'u gwneud ar ein tudalen gwaith diweddar.

Ask For Easy Read

Cysylltwch â ni

 

Os ydych chi eisiau help i wneud eich gwybodaeth yn fwy hygyrch, cysylltwch â ni.

 

Gofynnwch am ddyfynbris am ddim yma

 

 

Email Laptop
cyWelsh