Pam dewis Hawdd ei Ddeall Cymru?
Mae gan bawb yr hawl i wybodaeth y gallant ei ddeall
Rydyn ni eisiau i bobl ag anabledd dysgu gael gwell mynediad at wybodaeth fel y gallant:
- Cyrchu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
- Make informed decisions about their life.
- Cymryd rhan weithredol yn eu cymunedau.
Rydyn ni’n rhan o Anabledd Dysgu Cymru - elusen sydd wedi hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu ers 1983.
Pan fyddwch chi'n gweithio gyda ni, rydych chi'n elwa o'r profiad a'r ymrwymiad hwn.
Er mwyn cyfathrebu'n effeithiol, mae angen i'ch gwybodaeth fod yn hygyrch. Rydyn ni’n troi gwybodaeth gymhleth yn wybodaeth hygyrch glir, broffesiynol a chynhwysol - gan ddefnyddio egwyddorion a gynlluniwyd gan bobl ag anabledd dysgu ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.
Pam mae sefydliadau yn ein dewis ni
Rydych chi'n poeni am hygyrchedd ac felly rydyn ni. Mae gweithio gyda ni yn eich helpu i greu deunyddiau sy'n glir ac yn gynhwysol.
Dyma pam mae sefydliadau ledled y DU yn ymddiried ynom ni:
Arbenigedd profedig:
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, rydyn ni’n arweinwyr cydnabyddedig mewn gwybodaeth Hawdd ei Ddeall a hygyrch. Rydyn ni wedi creu cannoedd o ddogfennau Hawdd ei Ddeall ar gyfer ystod eang o sectorau, o iechyd a gofal cymdeithasol i'r celfyddydau a'r llywodraeth.
Ymddiriedaeth gan sefydliadau mawr:
Rydyn ni wedi cyflwyno prosiectau Hawdd ei Ddeall o ansawdd uchel ar gyfer sefydliadau ledled y DU, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Senedd, GIG Cymru, Carers UK, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Ymrwymedig i gynhwysiant:
Rydyn ni wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol o anabledd – mae pobl yn anabl gan rwystrau mewn cymdeithas. Gall gwybodaeth hygyrch helpu i gael gwared ar rai o'r rhwystrau hynny.
Cyd-gynhyrchu yn hanfodol:
Rydyn ni’n gwirio ein gwaith yn rheolaidd gyda phobl ag anabledd dysgu i wneud yn siŵr ei fod yn glir, yn berthnasol, ac yn wirioneddol ddefnyddiol i'r bobl a fydd yn ei ddefnyddio.
Gwerthoedd dielw gydag effaith gymdeithasol
Fel rhan o Anabledd Dysgu Cymru, mae pob prosiect a ymgymerwn yn cefnogi ein cenhadaeth - i fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi. Trwy weithio gyda ni, mae eich sefydliad yn creu effaith gymdeithasol go iawn.
Arweinwyr yn y maes:
Nid yn unig rydyn ni’n gwneud Hawdd ei Ddeall, rydyn ni wedi ymrwymo i dyfu'r defnydd a'r ddealltwriaeth o Hawdd ei Ddeall. Rydyn ni’n creu adnoddau a deunyddiau hyfforddi Hawdd ei Ddeall am ddim, yn codi ymwybyddiaeth ar draws sectorau, ac yn datblygu safonau Hawdd ei Ddeall Cymru. Rydyn ni bob amser yn ymdrechu i wella ymwybyddiaeth, ansawdd a hygyrchedd.
Gwasanaethau dwyieithog:
Rydyn ni’n creu Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg a Saesneg, gan eich helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach, ddwyieithog a sicrhau hygyrchedd i fwy o bobl yng Nghymru. Mae ein cyfieithwyr wedi'u hyfforddi mewn cysyniadau Hawdd ei Ddeall, felly pa bynnag iaith yr ydym yn gweithio ynddi, rydyn ni’n dewis iaith hygyrch.
Hygyrchedd digidol yn gynwysiedig:
Rydyn ni’n dylunio ein PDFs Hawdd ei Ddeall i weithio gyda darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol, fel bod eich gwybodaeth yn hygyrch mewn print ac ar-lein.
Deunyddiau at unrhyw bwrpas:
Rydyn ni’n creu deunyddiau Hawdd ei Ddeall ar gyfer adroddiadau, llyfrynnau, arolygon, taflenni, cyfarwyddiadau, cyflwyniadau, posteri, fideos a mwy!
Hyblyg ac ymatebol:
Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth wedi'i deilwra gydag amseroedd troi hyblyg i gwrdd â'ch dyddiadau cau heb gyfaddawdu ar ansawdd.
Rydyn ni’n helpu eich neges i gyrraedd mwy o bobl sydd ei hangen, yn glir, yn barchus ac yn garedig. Trwy weithio gyda ni, rydych chi'n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cynnwys ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Sut rydyn ni'n gweithio
Rydyn ni’n gwybod y gall hygyrchedd deimlo'n llethol iawn, yn enwedig pan fo dyddiadau cau yn dynn neu wybodaeth yn gymhleth. Dyna lle rydyn ni'n camu i mewn. Rydyn ni’n eich tywys drwy'r broses yn glir ac yn ddibynadwy, gan weithio gyda chi i greu deunyddiau sy'n gweithio.
- Symleiddio testun: Rydyn ni’n troi'ch dogfennau yn iaith glir, Hawdd ei Ddeall sy'n bodloni safonau cydnabyddedig Hawdd ei Ddeall.
- Dyluniad hygyrch: Rydyn ni’n defnyddio Photosymbols, digon o le gwyn, a fformatio glân yn ein cynlluniau. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod eich deunyddiau yn weledol glir tra hefyd yn cyd-fynd â'ch brandio.
- Drafftiau a prawf ddarllen: Rydyn ni’n rhannu drafftiau a phroflenni gyda chi trwy gydol y broses, gan wneud yn siŵr bod popeth yn gywir, yn glir, ac yn union yr hyn sydd ei angen arnoch.
- Cyflenwi arbenigol: Rydyn ni’n cyflwyno'ch deunyddiau yn barod i'w printio ac ar-lein fel PDFs hygyrch.
Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori, cynhyrchu fideo Hawdd ei Ddeall, deunyddiau sy'n Gyfeillgar i Ieuenctid a dogfennau Iaith Glir, i gyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae popeth a wnawn yn ymwneud â helpu eich gwybodaeth i gyrraedd y bobl sydd ei hangen.
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd
Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich prosiect ac archwilio sut y gallwn helpu.
Pam dewis Hawdd ei Ddeall Cymru?
Mae gan bawb yr hawl i wybodaeth glir.
Rydyn ni eisiau i bobl ag anabledd dysgu gael gwell gwybodaeth maen nhw’n gallu ei ddeall.
Rydym yn rhan o Anabledd Dysgu Cymru.
Rydyn ni’n cefnogi hawliau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
Mae sefydliadau a gwasanaethau eisiau i bobl ddeall eu gwybodaeth.
Rydyn ni'n eu helpu i wneud eu gwybodaeth yn haws i bobl ei ddarllen.
Pam mae sefydliadau yn ein dewis ni
Mae gennym ni lawer o brofiad.
Rydyn ni’n gweithio gyda sefydliadau mawr fel Llywodraeth Cymru a'r GIG.
Rydyn ni’n credu yn y model cymdeithasol o anabledd. Mae hyn yn meddwl bod pobl yn anabl gan bethau o'u cwmpas sy'n gwneud bywyd yn fwy anodd. Mae gwybodaeth Hawdd ei Ddeall yn 1 peth rydyn ni’n gallu ei wneud i wneud bywyd yn haws.
Rydyn ni’n edrych dros ein gwaith gyda phobl ag anabledd dysgu.
Mae pob prosiect rydyn ni’n ei wneud yn cefnogi gwaith Anabledd Dysgu Cymru. Rydyn ni’n gweithio i wneud Cymru y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu.
Rydyn ni’n gwneud canllawiau a hyfforddiant Hawdd ei Ddeall am ddim i helpu eraill i wneud gwybodaeth Hawdd ei Ddeall.
Rydyn ni’n gwneud gwybodaeth Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg a Saesneg.
Sut rydyn ni'n gweithio
Testun: Rydyn ni’n dilyn rheolau sydd yn cael eu gwneud gyda phobl ag anabledd dysgu. Dylunio: Rydyn ni’n defnyddio Photosymbols. Rydyn ni'n gwneud i bethau edrych yn dda ac yn glir.
Dylunio: Rydyn ni’n defnyddio Photosymbols. Rydyn ni'n gwneud i bethau edrych yn dda ac yn glir.
Gwirio: Rydyn ni'n newid y testun a'r dyluniad nes eich bod chi'n hapus.
Camau terfynol: Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod ein gwybodaeth yn gweithio gyda darllenwyr sgrin.
Rydyn ni hefyd yn cynnig:
- Cefnogaeth
- Fideos
- Cyfeillgar i Ieuenctid
- Iaith Glir
Fe fydden ni wrth ein bodd yn clywed am eich prosiect a gweld sut rydyn ni’n gallu helpu.