Geiriadur Diffiniadau

Rhestr A i Y o ddiffiniadau rydyn ni wedi'u defnyddio i esbonio geiriau anodd yn ein dogfennau Hawdd ei Ddeall

Os ydych chi'n gwneud eich gwybodaeth hawdd ei ddeall eich hun, gall ein geiriadur diffiniadau eich helpu i esbonio'r geiriau anodd na allwch eu hosgoi mewn ffordd hawdd.

Mae geiriau yn bwysig. Rydyn ni’n gweithio gyda phobl sydd â phrofiad byw a sefydliadau i helpu i gael ein diffiniadau yn iawn, ond mae pethau'n newid. Rydyn ni bob amser eisiau defnyddio iaith sy'n barchus, yn garedig ac yn gynhwysol.

Rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i gadw ein diffiniadau yn gyfredol, ond mae'n dasg fawr! Os ydych chi'n gweld rhywbeth nad yw'n ymddangos yn iawn neu sydd angen ei ddiweddaru, dywedwch wrthym.

A Yn ôl i’r brig

Addasiadau rhesymol
Addasiadau rhesymol yw newidiadau sydd yn cael eu gwneud fel bod pobl anabl yn gallu gwneud pethau fel pawb arall. Er enghraifft, rhoi rampiau mewn adeiladau ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Neu rhoi gwybodaeth yn hawdd ei ddeall.
Adnoddau
Mae adnoddau yn bethau defnyddiol sydd gennym neu rydyn ni’n gallu eu defnyddio. Er enghraifft, adeiladau, parciau, grwpiau, gwybodaeth, arian a gweithwyr proffesiynol.
Adolygu
Mae adolygu yn meddwl edrych ar rywbeth a gweld ydy e wedi gwneud gwahaniaeth. Mae’n edrych ar beth sydd wedi cael ei wneud yn dda, a beth sydd yn gallu cael ei wneud yn well.
Aflonyddu rhywiol
Mae aflonyddu rhywiol yn ymddygiad rhywiol diangen sy’n gwneud i rywun deimlo’n flin neu’n ofnus.
Alergedd
Alergedd ydy pan fydd eich corff yn ymateb yn wael i rywbeth. I nifer fach iawn o bobl, mae alergedd yn gallu bod yn ddifrifol iawn.
Allyriadau carbon
Dyma’r nwyon sy’n cael eu cynhyrchu gan bethau fel olew a nwy. Maen nhw’n niweidio’r blaned ac yn achosi iddi gynhesu.
Amrywiol
Mae amrywiol yn meddwl nad ydyn ni i gyd yr un fath. Er enghraifft, pobl: • yn dod o wahanol gefndiroedd a diwylliannau • gyda galluoedd gwahanol • yn credu mewn gwahanol bethau. • Bod â hunaniaeth rywiol wahanol • Gwneud dewisiadau gwahanol ynglŷn â sut maent yn byw eu bywydau • Yn wahanol oedrannau.
Anffafriaeth
Gwahaniaethu ydy pan fyddwch chi’n cael eich trin yn wael neu’n annheg oherwydd pethau fel eich rhyw, hil, crefydd, anabledd neu hunaniaeth rywiol.
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Mae plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) angen cymorth ychwanegol i ddysgu. Gallai hyn fod oherwydd: • bod anhawster neu anabledd gyda nhw sy’n golygu bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw • eu bod nhw’n ei chael hi’n anoddach i ddysgu na phlant a phobl ifanc o’r un oedran • bod anabledd gyda nhw sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu defnyddio’r ysgol neu’r coleg lleol.
Anghydraddoldeb Iechyd
Anghydraddoldeb iechyd ydy pan fydd rhai pobl yn cael llai o siawns am iechyd da nag eraill.
Annerbyniol
Mae annerbyniol yn meddwl rhywbeth sydd yn anghywir ac na ddylid ei wneud.
Anneuaidd
Mae rhywun anneuaidd yn berson nad yw ei rywedd yn cyd-fynd â syniadau arferol o’r hyn sy’n wrywaidd a’r hyn sy’n fenywaidd. Efallai y bydd person anneuaidd yn teimlo neu’n gwybod nad ydyn nhw’n ddyn nac yn fenyw.
Annibyniaeth
Mae annibyniaeth yn golygu yr hawl i wneud eich dewisiadau eich hun.
Arddangosfa
Mae arddangosfa yn sioe sy’n arddangos gwaith celf gwahanol.
Argyfwng
Argyfwng ydy pan fydd rhywun yn mynd trwy sefyllfa anodd iawn ac angen help yn gyflym.
Argymhelliad
Argymhelliad yw cyngor a roddir i rywun ynglŷn â'r hyn y dylent ei wneud neu feddwl amdano.
Arolygydd
Arolygydd yw rhywun sy'n gwirio rhywbeth.
Asesiad risg
Mae asesiad risg yn broses ffurfiol ar gyfer edrych ar risgiau posibl, a sut i leihau risgiau.
Asiantau gorfodi
Mae asiantau gorfodi yn bobl sy’n dod i gasglu arian neu nwyddau os nad ydych chi’n talu.

B Yn ôl i’r brig

Blaenoriaeth
Mae blaenoriaeth yn rhywbeth sydd angen cael ei wneud yn gyntaf,
Brechlyn
Mae brechlyn yn feddyginiaeth sy'n helpu eich corff i frwydro yn erbyn afiechydon. Mae'n helpu eich cadw'n ddiogel rhag mynd yn sâl iawn. Mae’r rhan fwyaf o frechlynnau yn cael eu rhoi trwy chwistrelliad. Weithiau mae pobl yn eu galw yn jabs.
Brechlyn atgyfnerthu
Mae brechlyn atgyfnerthu yn ddos arall o frechlyn. Mae hwn yn rhoi hwb i amddiffyniad rhag salwch pan fydd y brechlynnau cyntaf yn dechrau gwanhau.
Brechu
Brechu yw'r ffordd rydyn ni'n rhoi brechlyn i rywun.
Budd-daliadau lles
Mae budd-daliadau lles yn arian gan lywodraeth y DU i gefnogi pobl. Pethau fel Credyd Cynhwysol, Budd-dal Plant neu Daliadau Annibyniaeth Personol.
Bwlio
Bwlio yw pan fydd 1 person neu grŵp o bobl yn trin rhywun arall mewn ffordd wael. Gall bwlio fod yn bethau fel y canlynol: • dweud pethau cas wrthych chi neu amdanoch chi • cael eich anwybyddu neu eich gadael allan • cael eich taro, eich cicio neu eich gwthio • dweud celwyddau amdanoch chi
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn grwpiau o bobl o wahanol sefydliadau ym mhob ardal o Gymru. Maen nhw’n dod â gwahanol gyrff a sefydliadau cyhoeddus at ei gilydd i weithio ar broblemau a rennir.

C Yn ôl i’r brig

Cadw
Mae hyn yn meddwl amddiffyn.
Caethwasiaeth fodern
Caethwasiaeth fodern ydy pan fydd rhywun yn cael ei dwyllo neu’n cael ei orfodi i weithio i rywun. Dydyn nhw ddim yn gallu gadael, maen nhw yn colli eu rhyddid.
Caffael
Mae caffael yn meddwl dod o hyd i nwyddau a gwasanaethau a phrynu.
Cam-drin
Cam-drin ydy pan fydd rhywun yn dweud neu’n gwneud rhywbeth i’ch brifo neu wneud i chi deimlo’n ddrwg. Mae gwahanol fathau o gam-drin gan gynnwys: • Cam-drin corfforol yw pan fydd rhywun yn brifo'ch corff fel taro neu frathu. • Cam-drin rhywiol ydy pan fydd rhywun yn cyffwrdd â’ch corff neu rannau preifat heb eich caniatâd, neu’n gwneud i chi gyffwrdd â
Camddefnyddio sylweddau
Mae camddefnyddio sylweddau yn meddwl cymryd cyffuriau neu yfed gormod o alcohol.
Camfanteisio
Mae camfanteisio’n meddwl trin rhywun yn wael a’u defnyddio i gael rhywbeth rydych chi ei eisiau.
Camfanteisio troseddol
Camfanteisio troseddol ydy defnyddio rhywun i gyflawni trosedd. Er enghraifft, gangiau sy’n gwneud i blant werthu cyffuriau
Cartrefi gofal oedolion
Darparu lle i oedolion fyw pan nad ydyn nhw’n gallu byw yn eu cartrefi eu hunain, Maen nhw’n darparu gofal a chefnogaeth.
Cartrefi gofal plant
Lle i blant fyw, pan nad ydyn nhw’n gallu byw gyda’u teuluoedd eu hunain. Maen nhw’n darparu gofal a chefnogaeth.
Cod ymddygiad
Mae cod ymddygiad yn golygu’r rheolau a’r safonau mae’n rhaid i rywun eu dilyn yn eu swydd.
Comisiynu
Comisiynu yw'r ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio, eu trefnu a'u talu amdanynt. Gelwir y person sy'n gyfrifol am gomisiynu yn gomisiynydd.
Comisiynwyr
Mae comisiynu yn meddwl cynllunio a thalu am wasanaethau i ateb anghenion pobl leol. Mae’r person sy’n gyfrifol am gomisiynu yn cael ei alw yn Gomisiynydd.
CV
Mae gan CV eich holl swyddi a sgiliau wedi’u hysgrifennu i lawr. Fe ddylai ddweud wrthyn ni am eich profiad actio.
Cwyn
Cwyn ydy pan fyddwch chi’n dweud wrth sefydliad neu berson eich bod yn credu eu bod wedi gwneud rhywbeth o’i le.
Cydgynhyrchu
Mae cydgynhyrchu yn meddwl gweithio gyda’n gilydd ar brosiect fel partneriaid cyfartal. Mae pawb wedi’u cynnwys ac mae ganddyn nhw lais gyfartal.
Cydraddoldeb
Mae cydraddoldeb yn golygu trin pobl yn deg a gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd.
Cyfathrebu
Cyfathrebu yw'r ffordd rydyn ni'n rhannu gwybodaeth. Mae'n cynnwys siarad ac ysgrifennu.
Cyfeiriadedd rhywiol
Pwy rydych chi'n cael eich denu atyn nhw, er enghraifft dynion, menywod neu'r ddau
Cyfiawnder adferol
Cyfiawnder adferol ydy pan fydd pobl sy’n cael eu niweidio gan drosedd a’r person sydd wedi gwneud y drosedd yn siarad gyda’i gilydd. Mae hyn yn helpu pawb i ddod o hyd i ffordd dda ymlaen.
Cyfiawnder hinsawdd
Mae cyfiawnder hinsawdd yn meddwl sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar wahanol grwpiau o bobl mewn ffyrdd annheg.
Cyhoeddi
Mae cyhoeddi yn meddwl rhannu gyda’r cyhoedd, fel bod pawb yn gallu gweld.
Cynaliadwy
Mae cynaliadwy yn meddwl rhywbeth fydd yn para am amser hir. Mae’n meddwl cynllunio ar gyfer y dyfodol mewn ffordd sy’n dda i bobl a’r blaned.
Cynhwysiant
Mae hyn yn meddwl bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu cymryd rhan a theimlo’n rhan o’r broses.
Cynorthwyydd Personol
Mae Cynorthwyydd Personol yn rhywun sy'n cael eu talu i'ch helpu gyda thasgau dyddiol. Maen nhw’n gallu cefnogi gyda gofal personol, coginio, glanhau, a phethau eraill.
Cyrff cyhoeddus
Mae cyrff cyhoeddus yn sefydliadau sy’n rhedeg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Er enghraifft, cynghorau lleol, gwasanaethau iechyd, parciau cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub.

C Yn ôl i’r brig

canolbwyntio ar unigolion
Mae canolbwyntio ar unigolion yn meddwl canolbwyntio ar beth mae pob person ei eisiau a'i angen.
check

D Yn ôl i’r brig

Datgomisiynu
Datgomisiynu ydy pan fydd Comisiynydd yn dod â chontract i ben gyda darparwr gwasanaeth.
Deallusrwydd artiffisial
Mae deallusrwydd artiffisial yn gyfrifiaduron sy’n gallu meddwl a datrys problemau fel pobl.
Deddf Cydraddoldeb (2010)
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn gyfraith i wneud yn siŵr bod pawb yn cael yr un siawns.
Dementia
Mae dementia yn salwch sy'n effeithio ar yr ymennydd. Mae'n ei gwneud hi'n anodd cofio, meddwl a gwneud pethau.
Diabetes
Mae diabetes yn salwch lle mae’r corff yn cael trafferth defnyddio siwgr yn iawn. Gall achosi llawer o broblemau iechyd fel dallineb.
Diagnosis
Mae diagnosis yn meddwl archwilio iechyd rhywun a gwneud profion i weld os oes ganddyn nhw gyflwr iechyd.
Difreintiedig
Mae hyn yn meddwl bod heb y pethau sylfaenol mae angen i bobl fyw arnyn nhw. Er enghraifft, digon o fwyd, arian, gwresogi, tai gweddus a phethau eraill.
Dioddefwyr
Dioddefwyr ydy rhywun sydd wedi cael eu brifo neu eu hanafu gan rywun neu rywbeth.
Diogelu
Mae diogelu yn meddwl cadw pobl yn ddiogel rhag niwed a chamdriniaeth.
Diwylliant
Ein diwylliant ydy ein traddodiadau, ein hymddygiad, ein hanes a’n hiaith

E Yn ôl i’r brig

Economi
Yr economi yw faint o arian sydd gan wlad ac faint o arian mae’n wneud. Er enghraifft, o werthu pethau a thalu am bethau.
Ecosystem
faint o arian mae’n wneud. Er enghraifft, o werthu
Eiriolwr
Mae eiriolwr yn rhywun sy’n siarad drosoch chi i’ch helpu i ddweud beth rydych chi eisiau ei ddweud.
Emosiynau
Emosiynau ydy sut rydych chi’n teimlo am rywbeth. A sut mae’ch corff yn ymateb. Er enghraifft, os ydych chi’n ofnus, efallai y byddwch chi’n teimlo eich calon yn curo’n gyflymach.
Esgeuluso
Esgeuluso ydy pan fydd rhywun ddim yn cael gofal neu gefnogaeth.
Ethnigrwydd
Hil neu gefndir person. Er enghraifft, du, gwyn neu Asiaidd.

F Yn ôl i’r brig

Fframwaith
Mae fframwaith yn set o ganllawiau, gweithdrefnau neu nodau.
Fisa
Fel arfer, mae fisa yn stamp ar basbort neu ddogfen sy’n golygu bod person yn cael bod mewn gwlad. Mae fisa gwaith yn caniatáu i chi weithio yn y wlad honno.

G Yn ôl i’r brig

Glasoed
Glasoed ydy pan fydd corff plentyn yn newid i gorff oedolyn. Mae'r newidiadau yn effeithio ar ein cyrff a'n hemosiynau.
Gofodi
Mae gorfodi yn meddwl gwneud yn siŵr bod y gyfraith yn cael ei dilyn.
Gordewdra
Mae gordewdra yn meddwl cael gormod o fraster yn eich corff. Mae’n gallu achosi problemau iechyd fel diabetes, strôc neu arthritis.
Gwasanaeth cyhoeddus
Gwasanaethau y telir amdanynt gan y Llywodraeth yw gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, cynghorau lleol, y GIG a thân ac achub.
Gwasanaethau cymorth cartref
Gwasanaethau gofal sy’n cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain.
Gwasanaethau preswyl i deuluoedd
Lle mae plant a rhieni’n byw am gyfnod, mae gallu rhieni i ateb anghenion eu plant yn cael ei wirio, ac maen nhw’n cael cyngor a chefnogaeth.
Gwrth-hiliaeth
Mae gwrth-hiliaeth yn meddwl gwneud rhywbeth am hiliaeth a sefyll yn ei erbyn. Mae’n meddwl gwneud newidiadau fel bod pobl yn cael eu trin yn deg ac mae eu bywydau yn well.
Gysylltiad cymdeithasol
Mae cael ffrindiau, teulu, neu gefnogaeth gan y gymuned yn bwysig iawn. Mae hyn yn cael ei alw yn gysylltiad cymdeithasol.

H Yn ôl i’r brig

Heterorywiol
Mae hyn yn meddwl menyw sy’n ffansïo ac yn caru dynion neu ddyn sy’n ffansïo ac yn caru menywod.
Hiliaeth
Mae hiliaeth yn meddwl trin pobl yn wael neu’n annheg oherwydd eu bod yn dod o hil neu grŵp ethnig gwahanol.
Hunan-niweidio
Hunan-niweidio ydy pan fydd rhywun yn brifo eu hunain yn fwriadol.
Hunanladdiad
Hunanladdiad ydy pan fydd person yn dod â'i fywyd ei hun i ben.
Hygyrch
Mae hyn yn meddwl gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu defnyddio rhywbeth beth bynnag ydy eu hanghenion. Er enghraifft, gwneud gwybodaeth yn hawdd ei ddeall.
Hygyrchedd
Mae hygyrchedd yn golygu gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu defnyddio rhywbeth, beth bynnag yw eu hanghenion.

I Yn ôl i’r brig

Iechyd meddwl
Iechyd meddwl ydy sut rydych chi’n teimlo ac yn meddwl a sut mae hynny’n effeithio ar eich llesiant.
Iselder
Iselder yw pan fyddwch chi'n teimlo'n drist iawn ac yn isel am amser hir.

L Yn ôl i’r brig

LHDTQ+
Mae LHDTQ+ yn sefyll am grwpiau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, queer a grwpiau eraill. Dyma gymuned o bobl sy’n rhannu profiadau oherwydd pwy maen nhw’n ei garu a phwy ydyn nhw.
LHDTQIA+
Mae LHDTQIA+ yn gymuned o bobl sy’n rhannu profiadau oherwydd pwy maen nhw’n ei garu a phwy ydyn nhw.
Lles
Mae lles yn meddwl teimlo’n gyfforddus, yn iach, neu’n hapus.
Llygredd
Llygredd ydy pan fydd pethau drwg yn mynd i’r awyr, y dŵr, neu’r tir. Er enghraifft, mwg ceir, sbwriel neu garthffosydd yn gwagio i afonydd neu’r môr.

M Yn ôl i’r brig

Manwerthu
Manwerthu ydy gwerthu pethau a gwasanaethau i bobl. Mae manwerthwr yn berchnogion busnes sy’n gwerthu pethau i bobl.
Masnachu mewn Pobl
Masanachu mewn Pobl ydy gorfodi rhywun i fyw mewn lle gwahanol. Er enghraifft, o un wlad arall. Efallai ar gyfer gweithio.
Meddyliau hunanladdol
Pan fydd rhywun yn meddwl am hunanladdiad neu'n cynllunio hunanladdiad. Mae’r meddyliau yma yn gallu bod yn ddifrifol ac yn fanwl, neu'n pasio.
Mentrau cymdeithasol
Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy’n helpu pobl neu’r blaned yn lle gwneud arian yn unig.
Model cymdeithasol o anabledd
Mae’r Model Cymdeithasol Anabledd yn dweud bod y ffordd mae cymdeithas yn gweithio yn gallu stopio pobl anabl rhag gwneud pethau mae pobl sydd ddim yn anabl yn eu gwneud. Dydy person ddim yn anabl gan ei nam neu ei wahaniaeth. Mae person yn anabl gan bethau yn ein cymdeithas. Mae angen i gymdeithas newid ac addasu fel bod gwasanaethau yn ateb anghenion pobl. Mae hyn yn meddwl agweddau a dealltwriaeth pobl.

N Yn ôl i’r brig

Nam
Mae nam yn rhywbeth sy’n stopio eich corff neu’ch ymennydd rhag gweithio fel y dylai. Mae’n gallu bod oherwydd eich bod chi’n sâl, wedi’ch anafu, neu fod gennych broblem iechyd.
Newid yn yr hinsawdd
Mae newid yn yr hinsawdd yn newidiadau mawr yn ein tywydd. Er enghraifft, lleoedd sy’n mynd yn gynhesach, yn wlypach neu’n sychach. Mae’r newidiadau yma yn gwneud i bethau fel stormydd, llifogydd a thanau gwyllt waethygu.
Niwroamrywiol
Mae ymennydd pawb yn wahanol. Mae gan bob un ohonom ni sgiliau, diddordebau a ffyrdd gwahanol. Rydyn ni i gyd yn niwroamrywiol.
Niwronodweddiadol
Mae pobl niwronodweddiadol yn gweld y byd yn yr un ffordd. Mae eu hymennydd yn gweithio yn y ffordd rydyn ni’n ei ddisgwyl.
Niwrowahaniaeth
Mae niwrowahaniaeth yn meddwl bod ymennydd person yn gweithio’n wahanol. Mae’n meddwl pethau fel anabledd dysgu, ADHD ac awtistiaeth.
Niwrowahanol
Mae gan rai pobl wahaniaethau mwy yn y ffordd maen nhw’n meddwl ac yn cyfathrebu. Maen nhw’n niwrowahanol. Rydyn ni’n defnyddio’r gair niwrowahanol am yr holl wahaniaethau a chyflyrau’r ymennydd. Ond mae pobl i gyd yn dal i fod yn wahanol ac mae ganddyn nhw anghenion gwahanol.
Nodweddion gwarchodedig
Mae nodweddion gwarchodedig yn ymwneud â chyfraith am drin pobl yn gyfartal ac yn deg. Mae rhai grwpiau o bobl yn gallu cael eu trin yn annheg oherwydd pethau fel: • Oed • Anabledd • Rhywedd • Bod yn feichiog neu gael babi • Hil • Crefydd neu gred • Rhyw • Cyfeiriadedd rhywiol • Bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

P Yn ôl i’r brig

Plaid wleidyddol
Mae plaid wleidyddol yn grŵp o bobl sydd â syniadau tebyg am sut i redeg gwlad.
Pontio
Mae pontio yn gyfnod o newid mawr fel dechrau neu adael yr ysgol.
Presgripsiwn
Mae presgripsiwn yn nodyn ysgrifenedig ar gyfer y feddyginiaeth mae angen i chi ei chymryd. Mae presgripsiynau yn aml yn cael eu rhoi i chi gan feddyg. Ond mae gweithwyr gofal iechyd eraill fel rhai nyrsys, deintyddion a fferyllwyr yn gallu gwneud hyn hefyd.
Presgripsiynu cymdeithasol
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gysylltu pobl â grwpiau a gwasanaethau yn y gymuned. Mae’n ffordd o’u helpu i reoli eu iechyd a’u lles.
Profiad byw
Mae profiad byw yn golygu gwybod rhywbeth o fynd trwyddo.
Pryder
Pryder ydy pan fydd rhywun yn teimlo’n bryderus neu dan straen llawer o’r amser.

R Yn ôl i’r brig

Rhagenwau
Mae rhagenwau yn golygu geiriau fel ef, hi a nhw.
Rhaglen brentisiaethau
Mae rhaglen brentisiaethau yn meddwl gweithio a dysgu ar yr un pryd. Mae’r unigolyn yn ennill sgiliau a phrofiad wrth wneud y swydd.
Rhwystrau
Mae rhwystr yn rhywbeth sy’n stopio pobl rhag gallu gwneud rhywbeth. Mae rhwystrau yn gallu bod yn bethau fel: • Pethau ffisegol. Fel adeiladau heb rampiau na lifftiau ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. • Agweddau. Fel pobl sy’n cymryd yn ganiataol nad ydy pobl anabl yn gallu gwneud pethau. • Deddfau a Rheolau. Fel ysgol heb wybodaeth mewn braille neu sain. Mae hyn yn gallu stopio pobl ddall rhag astudio.
Rhywedd
Rhywedd yw’r syniad o fod yn fenyw, gwryw neu’n anneuaidd. Nid yw hyn bob amser yn cyfateb i rywedd pobl pan gawsant eu geni.

S Yn ôl i’r brig

Seibiant
Seibiant ydy pan fydd rhywun sydd angen cymorth yn aros rhywle am gyfnod byr. Efallai y bydd yn rhoi gorffwys i ofalwr.
Sero net
Mae sero net yn meddwl lleihau faint o nwyon niweidiol rydyn ni’n eu rhoi yn yr awyr.
Sgil-effeithiau
Sgil-effeithiau yw pan fyddwch chi’n cymryd meddyginiaeth neu'n cael brechlyn ac mae'n gwneud i chi deimlo'n sâl. Nid yw sgil-effeithiau yn digwydd i bawb. Fel arfer nid ydynt yn unrhyw beth i boeni amdano ac nid ydynt yn para’n hir.
STI
Mae STI yn sefyll am haint sydd yn cael ei drosglwyddo yn rhywiol. Mae’r rhain yn heintiau rydych chi’n eu dal trwy gyswllt rhywiol â rhywun arall.
System fwyd
Y system fwyd ydy’r holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â: • Tyfu a pharatoi bwyd. • Cludo a gwerthu bwyd. • Bwyta a gwneud bwyd.
System gyfiawnder
Y system gyfiawnder ydy llysoedd, heddlu, a charchardai. Mae’n gwneud yn siŵr bod pobl yn dilyn y gyfraith.
System imiwnedd
Ein system imiwnedd yw'r system yn ein corff sy'n ymladd afiechydon ac sy'n gweithio i'n hatal rhag mynd yn sâl.

T Yn ôl i’r brig

Tai hygyrch
Mae tai hygyrch yn meddwl cartrefi sy’n hawdd i bobl anabl fyw ynddyn nhw. Mae ganddyn nhw bethau fel rampiau, rheiliau a drysau ehangach.
Taliadau Uniongyrchol
Mae Taliadau Uniongyrchol yn arian mae gwasanaethau cymdeithasol yn gallu ei roi i chi yn lle gwasanaeth. Rydych chi’n gallu ei ddefnyddio I brynu eich cymorth a’ch gwasanaethau eich hun. Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth i chi.
Technoleg gynorthwyol
Mae technoleg gynorthwyol yn offer sy’n helpu pobl i wneud pethau maen nhw’n gallu eu gweld yn anodd. Pethau fel: technoleg newydd sydd yn gallu helpu pobl i drefnu eu diwrnod neu gysylltu ag eraill yn hawdd.
Teimladau
Teimladau ydy sut rydyn ni’n profi ein hemosiynau a’r ystyr rydyn ni’n ei roi iddyn nhw. Mae teimladau’n wahanol i bawb.
Tlodi
Dyma pryd nad oes gan rywun ddigon o arian i dalu am bethau sylfaenol fel bwyd neu wresogi.
Trais domestig
Trais domestig ydy unrhyw ymddygiad sy’n achosi niwed i rywun. Mae’n cael ei wneud gan bartner, cyn-bartner neu aelod o’r teulu.
Trawma
Pan fydd rhywbeth drwg yn digwydd, ac mae'n gwneud i rywun deimlo'n drist neu'n ofnus am amser hir
Traws
Mae pobl drawsryweddol neu bobl draws yn bobl â rhywedd gwahanol i’r rhyw a nodwyd ar adeg eu geni.
Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
Mae Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn broses gyfreithiol. Mae’n cael ei ddefnyddio pan nad ydy person yn gallu penderfynu am eu gofal neu eu triniaeth eu hunain. Mae’n caniatáu i staff gyfyngu ar ryddid rhywun i’w cadw’n ddiogel rhag niwed.
Trosedd
Mae trosedd yn rhywbeth sydd yn erbyn y gyfraith.
Troseddau casineb
Mae trosedd casineb yn golygu cael eich trin yn wael oherwydd bod pobl yn meddwl eich bod chi’n wahanol. Er enghraifft, oherwydd anabledd neu hil.
Troseddau difrifol a threfnedig
Troseddau difrifol a threfnedig ydy pan fydd pobl neu gangiau yn cynllunio ac yn cyflawni troseddau difrifol. Er enghraifft, cyffuriau. Ond mae yna lawer o wahanol fathau.
Troseddau seiber
Mae troseddau seiber ydy achosi trosedd trwy ddefnyddio cyfrifiaduron neu’r rhyngrwyd.
Trydydd Sector
Y trydydd sector ydy elusennau, grwpiau gwirfoddol, a sefydliadau dielw. Dydyn nhw ddim yn rhan o’r llywodraeth neu fusnesau.

U Yn ôl i’r brig

Urddas
Mae urddas yn golygu trin pobl â pharch a charedigrwydd.

Y Yn ôl i’r brig

Ymchwilio (Heddlu)
Mae ymchwilio yn golygu pan fydd yr heddlu’n gweithio i ddarganfod mwy o wybodaeth am drosedd.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae hyn yn ymddygiad sy’n effeithio ar bobl eraill mewn ffordd wael. Er enghraifft, codi ofn, creu gofid neu’n gwneud i rhywun deimlo’n bryderus.
Ymgeisydd
Mae ymgeisydd yn berson sy’n sefyll etholiad, maen nhw’n gofyn i bobl bleidleisio drostyn nhw.
Ymosodol
Mae ymosodol yn meddwl pan fydd rhywun yn barod neu’n debygol o fod yn dreisgar oherwydd dicter.

cyWelsh