Etholiad y Senedd 2026 – Mae eich pleidlais yn bwysig!
Gan Laura Griffiths
On Ar ddydd Iau 7 Mai 2026fe fydd pobl ar draws Cymru yn pleidleisio yn etholiad y Senedd. Mae hwn yn gyfle pwysig i ddewis pwy sy'n gwneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd, fel iechyd, addysg, trafnidiaeth a gwasanaethau cymorth yng Nghymru.
Mae'r blog yma yn sôn am:
- Y rhwystrau mae pobl anabl yn eu hwynebu i bleidleisio a chymryd rhan yn ddemocrataidd.
- Y gwaith rydyn ni'n ei wneud drwy'r Barod i Bleidleisio i gefnogi pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru i bleidleisio.
- Dyddiadau pwysig ar gyfer etholiad y Senedd 2026.
- Sut rydych chi’n gallu paratoi i bleidleisio.
- Lle rydych chi’n gallu cael gwybodaeth hygyrch am yr etholiad - gan gynnwys ein canllaw Hawdd ei Ddeall newydd i etholiad y Senedd 2026.
Mae pleidleisio yn hawl sylfaenol. Fe ddylai pawb sy'n gymwys i bleidleisio allu cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu.
Ond, mae llawer o bobl ag anabledd dysgu yn dal i wynebu rhwystrau i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, etholiadau a phleidleisio. Er enghraifft, fe wnaeth ymchwil yn 2019 ddarganfod nad oedd tua 1 o bob 3 o bobl yn y DU yn gwybod bod gan bobl ag anabledd dysgu yr un hawl i bleidleisio â phawb arall. Rhaid i hyn newid.
Rhwystrau i bleidleisio
Mae ymchwil o'r DU, Ewrop ac ar draws y byd yn dangos yn gyson bod pobl anabl yn llai tebygol o bleidleisio na phobl sydd ddim yn anabl. Mae hyn er gwaethaf ymchwil hefyd yn dangos bod pobl anabl yn ymwneud cymaint â materion gwleidyddol â'r boblogaeth ehangach, ac weithiau hyd yn oed yn fwy felly.
Yn 2014 fe wnaeth Mencap gynnal arolwg i ddarganfod sut beth ydy pleidleisio i bobl ag anabledd dysgu. Fe wnaethon nhw ddarganfod:
- Dywedodd 70% o bobl ag anabledd dysgu eu bod eisiau pleidleisio.
- Mae 64% o bobl ag anabledd dysgu wedi teimlo nad ydynt yn gallu pleidleisio mewn etholiadau blaenorol.
- Dywedodd 60% o bobl ag anabledd dysgu fod cofrestru i bleidleisio yn rhy anodd.
- Dywedodd 17% o bobl ag anabledd dysgu eu bod wedi cael eu troi i ffwrdd mewn gorsaf bleidleisio oherwydd eu hanabledd dysgu.
Mae llawer o bleidleiswyr anabl yn dal i brofi rhwystrau i gymryd rhan mewn etholiadau, gan gynnwys:
- Peidio â chael gwybodaeth hygyrch am y broses bleidleisio.
- Diffyg gwybodaeth am ddefnyddio cefnogwr i gael help gyda phleidleisio.
- Gorsafoedd pleidleisio anhygyrch, er enghraifft adeiladau sydd ddim yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, neu gymhorthion cynorthwyol sydd ddim ar gael i helpu pleidleiswyr.
- Doedd gan staff yr orsaf bleidleisio ddim yr hyfforddiant na'r hyder i gefnogi pleidleiswyr anabl.
- Pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr sydd ddim yn gwneud eu hymgyrchoedd yn hygyrch ac yn gynhwysol, gan gynnwys maniffestos Hawdd ei Ddeall sydd ddim yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â'r prif maniffestos.
Barod i Bleidleisio
Ym mis Ionawr 2026 lansiodd Anabledd Dysgu Cymru brosiect newydd o'r enw prosiect Barod i Bleidleisio.
Mae’r prosiectyn cael ei ariannu gan Grant Ymgysylltu Democrataidd Llywodraeth Cymru a'i nod ydy gwneud gwleidyddiaeth a phleidleisio yn fwy hygyrch i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
Yn y flwyddyn gyntaf fe fydd y prosiect yn canolbwyntio ar etholiad y Senedd 2026, a chefnogi pobl i gymryd rhan drwy:
- Cynnal gweithdai a sesiynau hyfforddi ar gyfer grwpiau o bobl ag anabledd dysgu ar draws Cymru.
- Gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol a'r Comisiwn Ffiniau i greu a rhannu gwybodaeth hygyrch, ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg am bleidleisio ac etholiadau.
- Cynnal digwyddiadau hygyrch, lle mae pobl ag anabledd dysgu yn gallu cyfarfod â'u hymgeiswyr lleol a thrafod y materion sy'n bwysig iddyn nhw.
Fel rhan o'r prosiect, rydyn ni wedi creu 2 ganllaw Hawdd ei Ddeall i gefnogi pobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan yn etholiad y Senedd 2026:
Eich canllaw i bleidleisio yn etholiad y Senedd 2026
Mae'r canllaw yma:
- Yn esbonio beth ydy'r Senedd a beth mae'n ei wneud.
- Yn tynnu sylw at pam mae eich pleidlais yn bwysig.
- Yn esbonio pwy sydd yn gallu pleidleisio a sut i bleidleisio.
- Yn cyfeirio darllenwyr i gael rhagor o gymorth a gwybodaeth.
Canllaw etholiad y Senedd 2026 i ymgeiswyr
Mae'r canllaw yma:
- Yn helpu pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr i wneud eu hymgyrchoedd yn fwy hygyrch.
- Yn rhoi gwybodaeth am y Model Cymdeithasol o Anabledd, iaith, a darparu gwybodaeth hygyrch.
- Yn rhoi trosolwg byr o rai o'r materion a'r pryderon mwyaf y mae pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn eu hwynebu.
Os hoffech ddod o hyd i fwy o adnoddau pleidleisio Hawdd ei Ddeall, cymryd rhan yn y prosiect, neu gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith, ewch i dudalen prosiect Anabledd Dysgu Cymru yn Barod i Bleidleisio.
Dyddiadau pwysig
Mae sawl dyddiad allweddol i fod yn ymwybodol ohonyn nhw yn y cyfnod cyn Etholiad y Senedd 2026.
4pm ddydd Gwener 10 Ebrill 2026
Erbyn y dyddiad yma fe fydd y rhestr lawn o ymgeiswyr sy'n sefyll yn eich ardal bleidleisio yn cael ei gadarnhau.
Rydych chi’n gallu defnyddio gwefan y Comisiwn Etholiadol i ddarganfod pwy ydy eich ymgeiswyr, ble mae eich gorsaf bleidleisio a phwy i gysylltu â nhw os ydych chi angen help: www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/gwybodaeth-etholiad
Rydych chi hefyd yn gallu defnyddio'r wefan Pwy alla i bleidleisio drosto, i ddysgu am yr ymgeiswyr yn eich ardal bleidleisio.
Hanner nos Dydd Llun 20 Ebrill 2026
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio. Mae gennych tan hanner nos ar yr 20 Ebrill i gofrestru. Dydych chi ddim yn gallu pleidleisio yn bersonol, drwy'r post neu drwy ddirprwy os nad ydych chi wedi cofrestru yn gyntaf.
Rydych chi’n gallu cofrestru ar-lein yma: gov.uk/register-to-vote
5pm ddydd Mawrth 21 Ebrill 2026
Dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost.
I wneud cais am bleidlais drwy'r post, mae angen i chi lawrlwytho, argraffu a phostio ffurflen bapur, sydd ar gael ar-lein yma: gov.uk/government/publications/apply-for-a-postal-vote
Os ydych chi angen help gyda'ch ffurflen, cysylltwch â'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol. Gallwch ddod o hyd i'ch un chi yma: gov.uk/contact-electoral-registration-office
5pm ddydd Mawrth 28 Ebrill 2026
Dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.
I wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad y Senedd 2026, mae angen i chi lawrlwytho, argraffu ac anfon ffurflen bapur. Rydych chi’n gallu darganfod mwy ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Dydych chi ddim yn gallu gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad y Senedd.
Os ydych chi angen help, cysylltwch â'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol. Rydych chi’n gallu dod o hyd i'ch un chi yma: gov.uk/contact-electoral-registration-office
7am i 10pm ddydd Iau 7 Mai 2026
Diwrnod yr etholiad. Rydych chi’n gallu mynd i'r orsaf bleidleisio sydd wedi ei enwi ar eich cerdyn pleidleisio rhwng 7am a 10pm ddydd Iau 7 Mai i bleidleisio.
Mewn argyfwng
Mae gennych tan 5pm ddydd Iau 7 Mai i:
- Gwnewch gais am bleidlais bost newydd os ydych chi wedi ei cholli neu wedi gwneud camgymeriad.
- Gwnewch gais am ddirprwy brys. Ond mae'n rhaid i chi gael rheswm a phrawf da. Er enghraifft, argyfwng meddygol.
Mewn argyfwng, cysylltwch â'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol ar unwaith. Rydych chi’n gallu dod o hyd i'ch un chi yma: gov.uk/contact-electoral-registration-office
Paratoi ar gyfer yr etholiad
Beth rydych chi yn gallu ei wneud:
Cofrestrwch i bleidleisio!
Dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru, oni bai eich bod yn newid eich enw neu gyfeiriad. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cofrestru, cysylltwch â'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol i weld: gov.uk/contact-electoral-registration-office
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi gwneud fideo am gofrestru i bleidleisio: Fideo sut i gofrestru i bleidleisio'r Comisiwn Etholiadol
Cael gwybodaeth
Darllenwch am beth sydd angen i chi ei wneud i bleidleisio a pharatoi. Mae dolenni i wybodaeth hygyrch ar ddiwedd y blog yma, a rydych chi hefyd yn gallu darllen ein canllaw Hawdd ei Ddeall i bleidleisio yn etholiad y Senedd 2026.
Penderfynu dros bwy i bleidleisio
Mae hi’n gallu bod yn anodd penderfynu dros bwy i bleidleisio. Cofiwch mai eich dewis chi ydy hi a does neb yn gallu dweud wrthych chi dros bwy i bleidleisio.
Mae’n gallu bod yn help siarad â theulu a ffrindiau am beth sy'n bwysig i chi. Ac edrychwch dros beth mae'r ymgeiswyr a'r pleidiau gwleidyddol yn eich ardal bleidleisio yn sefyll amdano.
I ddysgu am yr ymgeiswyr a'r pleidiau gwleidyddol yn eich ardal chi, edrychwch ar wefan Pwy alla i bleidleisio drosto.
Fe fydd pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr yn rhannu maniffesto, yn esbonio beth maen nhw'n credu ynddo a beth ydy eu cynlluniau os ydyn nhw'n ennill. Rydych chi’n gallu gofyn i'ch ymgeiswyr lleol a oes ganddyn nhw fersiynau Hawdd ei Ddeall o'u maniffestos.
Fideo y Comisiwn Etholiadol – Hysbysebion Ymgyrch Etholiad yng Nghymru
Maniffesto Hawdd ei Ddeall- Pleidiau Gwleidyddol:
Maniffesto sefydliadau pobl anabl:
Maniffesto Anabledd Dysgu Cymru 2026
Maniffesto Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan 2026
Maniffesto Anabledd Cymru 2026 - 2031
Gofalwyr a chefnogwyr
Mae gofalwyr a chefnogwyr yn aml yn chwarae rôl bwysig wrth helpu pobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan mewn etholiadau. Mae ymchwil yn awgrymu bod 97% o bobl ag anabledd dysgu yn dweud eu bodnhw angen help i bleidleisio. Rydych chi’n gallu helpu rhywun rydych chi'n gofalu amdano i bleidleisio, darganfyddwch fwy am gefnogi rhywun rydych chi'n gofalu amdano:
- Canllawiau i Ofalwyr - Gwefan Fy Mhleidlais Fy Llais.
- Y Comisiwn Etholiadol - Canllaw i ofalwyr sy'n cefnogi pobl i bleidleisio
Cysylltwch â'ch cyngor cyn yr etholiad
Os ydych chi'n meddwl eich bod efallai angen help yn yr orsaf bleidleisio, siaradwch â'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol cyn diwrnod yr etholiad. Maen nhw'n trefnu etholiadau yn eich ardal leol. Maen nhw’n gallu:
- Gwneud yn siŵr bod gennych yr offer rydych chi ei angen i'ch helpu i bleidleisio.
- Ateb unrhyw gwestiynau am eich gorsaf bleidleisio.
- Helpu chi i gynllunio'ch ymweliad â'r orsaf bleidleisio.
Rydych chi’n gallu dod o hyd i'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol yma: gov.uk/contact-electoral-registration-office
Mae rhagor o wybodaeth am gefnogaeth i bleidleisio ar wefan Pleidleisio.Cymru .
Rydych chi hefyd yn gallu gweld ydy eich gorsaf bleidleisio ar gael ar wefan Pleidleisio.Cymru . Rhowch eich cod post i mewn i ddod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio. Fe fydd y wefan yn dweud wrthych chi bethau fel a oes parcio i'r anabl, os oes grisiau a rampiau, ac os oes gan yr adeilad ddolen glywed.
Mwy o gymorth a gwybodaeth hygyrch
Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol, sy'n rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, wedi creu gwefan newydd o'r enw Pleidleisio.Cymru. Mae'r wefan yn ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth am bleidleisio, ac mae'n cynnwys gwybodaeth Hawdd ei Ddeall am:
- Sut mae'r system bleidleisio yn gweithio
- Sut i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
- Sut i bleidleisio drwy'r post
- Sut i bleidleisio trwy ddirprwy
- Pa gefnogaeth rydych chi’n gallu ei gael i bleidleisio
- Pwy sydd yn gallu pbleidleisio
- Beth ydy'r Senedd
- Beth mae'r Senedd yn ei wneud
Adnoddau defnyddiol eraill:
- Anabledd Dysgu Cymru - canllaw Hawdd ei Ddeall i bleidleisio yn etholiad y Senedd 2026
- Llinell gymorth y Comisiwn Etholiadol: 0800 328 0280 – maen n hw yn gallu eich helpu i gofrestru i bleidleisio neu eich helpu i gysylltu â'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol.
- Fideo y Senedd – Sut mae Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol?
- PDF y Senedd - Canllaw Hawdd ei Ddeall ar newidiadau i'r Senedd
- Fideo y Comisiwn Etholiadol – Gwybodaeth i Bleidleiswyr Cymru 2026. Mae'r fideo yma yn esbonio sut mae'r system bleidleisio yn gweithio a sut i farcio'ch pleidlais ar eich papur pleidleisio.
- Y Comisiwn Etholiadol - Ffug bapur pleidleisio
- Canllaw Hawdd ei Ddeall gan Lywodraeth y DU ar gyfer cofrestru i bleidleisio
- Canllaw Hawdd ei Ddeall gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost
- Canllaw Hawdd ei Ddeall gan Lywodraeth y DU i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy
Mae’n gallu cymryd ychydig o amser i baratoi ar gyfer yr etholiad i wneud i bleidleisio deimlo'n llawer haws. Gyda'r wybodaeth a'r gefnogaeth hygyrch gywir, mae pobl ag anabledd dysgu yn gallu cymryd rhan yn hyderus.
Mae pleidleisio yn un ffordd o gael eich llais wedi ei glywed. Mae pawb yn haeddu'r cyfle i ddeall y broses, gwneud eu dewis eu hunain, a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.