Amdanom ni
Rydym yn darparu gwybodaeth hygyrch, hawdd ei ddeall sy'n hyrwyddo cynhwysiant ac yn grymuso pobl ag anableddau dysgu.
Rydym yn rhan o Anabledd Dysgu Cymru. Mae pob prosiect rydym yn ei gwblhau yn helpu i gefnogi ein prif nod – i fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.
Fe wnaethom ddechrau darparu gwasanaeth Hawdd ei Ddeall dros 20 mlynedd yn ôl, pan ddechreuodd sefydliadau ofyn i ni am help i greu deunyddiau hygyrch.
Ar y pryd, roedd ein tîm gwybodaeth bach yn delio â'r gwaith Hawdd ei Ddeall. Wrth i'r galw dyfu, gwelsom pa mor hanfodol oedd y gwasanaeth hwn. Fe wnaethom gymryd cam mawr a llogi ein Swyddog Hawdd ei Ddeall cyntaf - ac oddi yno, parhaodd ein gwasanaeth i dyfu.
Heddiw, mae gan ein tîm Hawdd ei Ddeall 4 aelod ymroddedig o staff, gyda chefnogaeth gweinyddol gan Julie, sy'n cadw pob un ohonom yn Anabledd Dysgu Cymru i weithio'n effeithlon!
Rydym yn falch o chwarae rhan mewn creu byd mwy hygyrch, un gair ar y tro.
Eisiau darganfod mwy am ein gwaith neu sut y gallwn eich helpu? Cysylltu â ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ein tîm
Rydym yn dîm bach, cyfeillgar sy'n hidio’n fawr am yr hyn rydym yn ei wneud. Rydym yn cymryd yr amser i ddod i adnabod pob prosiect, ac rydym bob amser yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwn yn gweithio gyda chi i greu rhywbeth sy'n gweithio i'r bobl sydd ei angen fwyaf.
Rydyn ni’n gwneud gwybodaeth Hawdd ei Ddeall i bobl ag anabledd dysgu.
Rydym yn rhan o Anabledd Dysgu CymruMae'r arian mae ein gwasanaeth Hawdd ei Ddeall yn ei wneud yn mynd yn ôl i Anabledd Dysgu Cymru.
Fe wnaethon ni ddechrau gwneud Hawdd ei Ddeall dros 20 mlynedd yn ôl. Dechreuodd sefydliadau ofyn i ni am help i wneud eu gwybodaeth yn hawdd i'w darllen a'i deall.
Yn ôl Yn yr amser hynny, fe wnaeth ein tîm gwybodaeth bach y gwaith Hawdd ei Ddeall.
Dechreuodd mwy o sefydliadau ofyn i ni am Hawdd ei Ddeall. Fe wnaethon ni gyflogi swyddog Hawdd ei Ddeall, a thyfodd ein gwasanaeth oddi yno.
Mae gennym ni 4 aelod o staff ar ein tîm Hawdd ei Ddeall nawr. Rydyn ni’n cael cefnogaeth weinyddol gan Julie, sy'n cefnogi pawb yn Anabledd Dysgu Cymru.
Rydyn ni’n falch o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud. Rydyn ni eisiau helpu pobl ag anabledd dysgu i gael gwell gwybodaeth maen nhw’n gallu ei ddeall.
Cysylltwch â ni am help a chefnogaeth, fe fydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ein tîm
Rydyn ni’n dîm bach, cyfeillgar. Rydyn ni'n poeni llawer am beth rydyn ni'n ei wneud. Rydyn ni’n cymryd amser i ddeall eich prosiect, ac rydyn ni bob amser yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd
Ready to make your information clearer and more inclusive?
Contact us today to discuss your project or