Cyflwyno ein canllaw am ddim i ysgrifennu Cymraeg Hawdd ei Ddeall
Gan Julie Jones
Os ydych chi eisiau ysgrifennu dogfennau Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg, gallwn helpu. Rydym wedi creu canllaw syml i'ch helpu chi i ddechrau.
Gallwch ddarllen a lawrlwytho ein canllaw wedi'i ddiweddaru yma: Cyflwyno ein canllaw am ddim i ysgrifennu Cymraeg Hawdd ei Ddeall
Ynglŷn â'n canllaw am ddim
Rydym wedi bod yn creu Cymraeg Hawdd ei Ddeall ers bron i 20 mlynedd a dros y 2 flynedd ddiwethaf, wedi gwneud llawer o waith i'w wella gymaint â phosibl.
Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â chyfieithwyr Cymraeg, pobl ag anabledd dysgu a phartneriaid arbenigol, i adolygu, profi a diweddaru ein canllawiau. Cynhyrchwyd y rhain gyntaf mewn partneriaeth â Mencap Cymru yn 2012.
Mae'r gwaith hwn wedi ein helpu i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r arfer gorau cyfredol ac yn cefnogi sefydliadau ledled Cymru i greu gwybodaeth well, mwy hygyrch.
Rydym am wneud yn siŵr bod pobl ag anabledd dysgu yn gallu darllen gwybodaeth bwysig yn Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud hynny.Pethau fel gwybodaeth iechyd, ariannol, pleidleisio and a thai sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau bob dydd.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld ein canllawiau yn ddefnyddiol a byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn.
Mae digon o ganllawiau ar gael ar gyfer ysgrifennu Hawdd ei Ddeall yn Saesneg. Er bod llawer o'r egwyddorion craidd yn berthnasol ar draws ieithoedd, mae gan y Gymraeg ei gwahaniaethau pwysig ei hun sydd angen meddwl ac arbenigedd gofalus. barn.
Bydd ein canllaw yn eich helpu i lywio a delio â rhai o'r gwahaniaethau pwysig hyn, pan fyddwch yn paratoi gwybodaeth Gymraeg Hawdd ei Ddeall.
Yn y blog hwn byddwn yn edrych ar:
- Pam mae'r Gymraeg yn Hawdd ei Ddeall yn bwysig
- Sut wnaethom ddatblygu'r canllaw wedi'i ddiweddaru . Sut gall y canllaw eich helpu chi.
- Sut gall y canllaw eich helpu chi.
Pam mae'r Gymraeg yn Hawdd ei Ddeall yn bwysig
Mae Hawdd ei Ddeall yn fformat o wybodaeth hygyrch, wedi'i gynllunio ar gyfer a gyda phobl ag anabledd dysgu.
Gallwch ddarllen ein tudalen Beth ydy Hawdd ei Ddeall? i ddysgu mwy.
Rydym yn creu gwybodaeth Hawdd ei Ddeall a mathau eraill o wybodaeth hygyrch i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Dychmygwch fod angen gofyn i rywun arall esbonio'ch llythyr apwyntiad meddygol, gwybodaeth tai, neu ddogfennau ariannol oherwydd nad oeddent wedi'u hysgrifennu mewn ffordd y gallech ei ddeall.
Prif nod gwybodaeth hygyrch yw lleihau rhwystrau i ddealltwriaeth. Dyma pam mae ystyried iaith gyntaf neu ddewis iaith rhywun mor bwysig.
Prif nod gwybodaeth hygyrch yw lleihau rhwystrau i ddealltwriaeth. Dyma pam mae ystyried iaith gyntaf neu ddewis iaith rhywun mor bwysig.
Yn aml, dewis iaith person yw'r hyn sy'n fwyaf cyfarwydd iddynt, gan wneud darllen a deall yn llawer haws.
Gall hyd yn oed pobl sy'n hyderus mewn ail iaith ddychwelyd i'w hiaith gyntaf i ddeall gwybodaeth gymhleth.
Mae Cymru yn genedl ddwyieithog gyda dwy iaith swyddogol – Cymraeg a Saesneg. Os yw pobl eisiau byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, dyna eu hawl yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn golygu y dylai gwybodaeth hygyrch fod ar gael yn Gymraeg hefyd.
Sut y gwnaethom ddatblygu'r canllaw
Roeddem eisiau i'r canllaw fod yn ymarferol, yn gywir, ac yn seiliedig ar brofiad go iawn. I wneud hyn:
- Fe wnaethom ddefnyddio ein canllaw 2012 fel sail.
- Buom yn gweithio gyda'n cyfieithwyr Hawdd ei Ddeall Cymraeg profiadol.
- Cawsom fewnbwn arbenigol gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
- Buom yn siarad â phobl sy'n siarad Cymraeg ag anabledd dysgu.
- Fe wnaethom gynnwys safonau a chanllawiau Hawdd ei Ddeall cyfredol.
Roedd yn bwysig i ni nad diweddariad technegol yn unig oedd hwn. Cafodd ei siapio gan brofiad byw a gwybodaeth arbenigol yn gweithio gyda'i gilydd.
Sut gall y canllaw eich helpu chi
Edrychwyd yn fanwl ar y gwahaniaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg mewn meysydd fel:
- atalnodi
- rhifau
- treigladau
- syntax
Mae'r canllaw yn ystyried natur unigryw'r Gymraeg, a bydd yn eich helpu i ddelio â heriau fel:
- Gwahaniaethau mewn tafodieithoedd rhanbarthol ledled Cymru.
- Geiriau sy'n anodd yn Gymraeg, ond syml yn Saesneg.
- Geiriau sy'n hawdd yn Saesneg, ond yn fwy cymhleth yn Gymraeg.
- Dewisiadau iaith sy'n effeithio ar eglurder a dealltwriaeth.
Nawr, eich cyfle chi!
Os ydych wedi defnyddio ein canllawiau a'u gweld yn ddefnyddiol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
P'un a oedd ganddynt bopeth yr oeddech ei angen neu os oedd rhywbeth ar goll, rhowch wybod i ni.
Gall eich adborth ein helpu i barhau i wneud Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg a Saesneg yn well i bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru.
Gallwch anfon e-bost atom yn [email protected]
Diolch yn fawr iawn!
Fel y dywedwyd, rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran ac a rannodd eu barn, eu profiad a'u gwybodaeth arbenigol.
Hoffem ddiolch i Eluned Jones am ysgrifennu'r canllaw hwn, a Manon Davies ac Eleri James yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am eu cefnogaeth a'u mewnbwn.
'Roeddem yn falch iawn o gael ein gwahodd i gyfrannu at y gwaith pwysig hwn. Roedd yn fuddiol oedi a meddwl pa elfennau o'r iaith allai wneud testunau yn ddiangen o gymhleth i bobl sy'n defnyddio Hawdd ei Ddeall. Rydym wedi dysgu cymaint drwy'r broses ac edrychwn ymlaen at barhau i ddysgu wrth i ddefnyddwyr roi adborth gwerthfawr ar Ddogfennau Hawdd ei Ddeall yng Nghymru.' Manon Davies ac Eleri James, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
Mae sicrhau bod pawb yn cael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn Gymraeg wrth wraidd popeth rwy'n ei wneud fel Comisiynydd. Rwy'n credu'n gryf y dylai pob dogfen sy'n cael ei drafftio yn Gymraeg ymdrechu i ddefnyddio iaith syml a hygyrch, waeth beth yw'r pwnc a phwy yw'r gynulleidfa darged. Wrth greu cyhoeddiadau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, mae defnyddio Cymraeg clir, cryno a chywir, wrth gwrs, hyd yn oed yn bwysicach. Rwy'n falch iawn bod fy swyddfa wedi gallu cyfrannu at greu'r canllawiau hanfodol hyn a fydd yn cefnogi awduron a chyfieithwyr i gynhyrchu dogfennau Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg. Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg
Os yw'ch sefydliad yn cynhyrchu dogfennau yn Gymraeg, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i greu gwybodaeth sy'n gliriach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy hygyrch i bawb.
Dylai ysgrifennu Cymraeg hygyrch fod yn rhan o gyfathrebu da. Rydym yn gobeithio bod y canllaw hwn yn rhoi'r hyder i chi wneud hyn yn dda.
Darllenwch a lawrlwythwch y canllaw: