Datganiad Hygyrchedd
Rydyn ni eisiau i bawb allu defnyddio gwefan Hawdd ei Ddeall Cymru.
Ein hymrwymiad
- Rydyn ni’n dilyn safonau hygyrchedd cydnabyddedig ac yn anelu at fodloni WCAG 2.1 Lefel AA.
- Mae ein tîm yn derbyn hyfforddiant rheolaidd, felly mae hygyrchedd yn rhan o bopeth a wnawn.
- Rydyn ni’n gwirio ansawdd ein gwaith trwy adolygiadau mewnol ac adborth gan ddefnyddwyr.
- Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu i brofi a gwella ein gwybodaeth hawdd ei ddarllen.
- Fel rhan o Anabledd Dysgu Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant ar draws ein holl waith.
Defnyddio'r wefan
- Rydyn ni’n defnyddio penawdau clir, cynlluniau syml, a dyluniad hygyrch.
- Mae ein gwefan wedi'i chynllunio i weithio gyda thechnolegau cynorthwyol fel darllenwyr sgrin.
- Gallwch newid maint testun, lliwiau, a chyferbyniad gan ddefnyddio gosodiadau eich porwr gwe.
- Efallai nad yw rhai ffeiliau hŷn yn gwbl hygyrch. Os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
Adborth
Mae eich adborth yn ein helpu i barhau i wella. Cysylltwch â ni os ydych chi'n dod o hyd i broblem neu os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat arall. Byddwn yn gwrando'n ofalus ar eich cais ac yn ymateb cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi eisiau cysylltu â ni am ein hygyrchedd, ffoniwch ni ar 029 20681160 neu e-bostiwch [email protected].