Telerau ac Amodau

Croeso i wefan Hawdd ei Ddeall Cymru. Trwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'r telerau canlynol:

Amdanom ni

Mae Hawdd ei Ddeall Cymru yn rhan o Anabledd Dysgu Cymru, elusen gofrestredig yng Nghymru.

Defnyddio ein gwefan

Rhaid i chi beidio â defnyddio'r wefan hon ar gyfer unrhyw beth anghyfreithlon neu sy'n effeithio ar hawliau unrhyw un arall.

Efallai y byddwn yn diweddaru'r telerau hyn ar unrhyw adeg. Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn derbyn y telerau wedi'u diweddaru.

Hawlfraint a chynnwys

Rydym yn berchen ar enw a logo Hawdd ei Ddeall Cymru. Fedrwch chi ddim eu defnyddio heb ganiatâd.
Mae'r testun, y delweddau a'r adnoddau ar y wefan hon yn perthyn i ni neu mae gennym ganiatâd i'w defnyddio. Gallwch eu defnyddio at ddibenion personol, anfasnachol yn unig, ac ni ddylech eu newid na'u hatgynhyrchu heb ganiatâd.

Ein gwasanaethau

Bydd unrhyw ddyfynbrisiau, contractau neu gytundebau ar gyfer ein gwasanaethau yn cael eu nodi ar wahân yn ysgrifenedig.

Cywirdeb ac atebolrwydd

Rydym yn gwneud pob ymdrech i gadw'r wefan yn gywir ac yn gyfredol, ond ni allwn warantu ei bod bob amser yn rhydd o wallau.
Mae'r wybodaeth a ddarperir at ddefnydd cyffredinol yn unig ac ni ddylid ei chymryd fel cyngor proffesiynol. Gofynnwch am eich cyngor eich hun cyn gweithredu arno.
Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod, neu aflonyddwch sy'n deillio o ddefnyddio'r wefan hon.
Ni allwn warantu y bydd y wefan hon bob amser ar gael neu'n rhydd o wallau, firysau neu fygiau. Amddiffynnwch eich dyfeisiau eich hun wrth ddefnyddio'r wefan.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau allanol. Nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys, eu cywirdeb na'u dibynadwyedd.

Cyfraith lywodraethol

Mae'r telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau yn cael eu trin gan lysoedd Cymru a Lloegr.

 


Os hoffech gysylltu â ni am ein telerau ac amodau, ffoniwch ni ar 029 20681160 neu e-bostiwch [email protected].

cyWelsh