10 o awgrymiadau ar gyfer gwneud gwybodaeth Hawdd ei Ddeall
Gan Inacia Rodrigues
Ydych chi erioed wedi meddwl am faint o bobl sy'n cael trafferth deall gwybodaeth ysgrifenedig?
Darllenwch ein 10 awgrym gorau i'ch helpu i wneud eich gwybodaeth yn glir ac yn hawdd ei deall.
I bobl ag anabledd dysgu, gall iaith gymhleth, brawddegau hir a dyluniadaau anhrefnus greu rhwystrau diangen i wybodaeth bob dydd.
Pan fydd gwybodaeth yn anodd ei deall, gall atal pobl rhag cael mynediad at wasanaethau, gwneud penderfyniadau, neu gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Y newyddion da yw bod hyn yn rhywbeth y gallwn ei newid.
Bydd ein 10 awgrym yn eich helpu i gymhwyso egwyddorion allweddol Hawdd ei Ddeall am eiriau, delweddau, dyluniad a hygyrchedd.
Gallwch ddefnyddio'r awgrymiadau hyn wrth greu taflenni, adroddiadau, gwefannau, deunyddiau hyfforddi, neu unrhyw wybodaeth gyhoeddus.
Dechrau arni
Cyn i chi wneud eich gwybodaeth yn Hawdd ei Ddeall, mae'n bwysig deall anghenion hygyrchedd y bobl y mae'r wybodaeth ar eu cyfer.
A fydd pawb sy'n darllen eich gwybodaeth yn bobl ag anabledd dysgu? Os na, a fyddwch chi'n cynhyrchu dwy fersiwn o'r wybodaeth, neu a fydd pawb yn cael y fersiwn Hawdd ei Ddeall?
Nid oes angen i'r holl wybodaeth fod yn Hawdd ei Ddeall. Mae hygyrchedd yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Efallai y bydd rhai pobl angen:
- Hawdd ei Ddeall.
- Saesneg/Cymraeg clir
- Print bras.
- Braille.
- Fformatau sain neu fideo.
Yr allwedd yw meddwl am yr hyn mae eich cynulleidfa chi ei angen a pheidio â chymryd pethau yn ganiataol. audience needs and not to assume.
Sut y bydd pobl yn defnyddio'r wybodaeth?
Meddyliwch am sut y bydd pobl yn derbyn eich gwybodaeth. Hefyd, beth ydych chi eisiau iddyn nhw ei wneud wedyn ar ôl ei ddarllen?
Meddyliwch am:
- A oes angen gweithredu ar eich dogfen? Er enghraifft, os ydych chi'n rhoi ffurflen neu arolwg i bobl y mae angen iddynt ei chwblhau a'i dychwelyd.
- Pa gefnogaeth sydd ar waith os ydyn nhw'n methu?
Os oes angen gweithredu, ni ddylai pobl orfod dyfalu beth sy'n dod nesaf. Gwnewch yn siŵr bod pobl yn gwybod:
- Beth sydd angen iddyn nhw ei wneud.
- Pan fydd angen iddyn nhw ei wneud.
- Sut y gallant ei wneud.
Mae camau nesaf clir yn helpu pobl i deimlo'n hyderus am beth i'w wneud.
Y 10 awgrym gorau ar gyfer creu eich cynnwys Hawdd ei Ddeall eich hun
1. Defnyddio brawddegau byr, syml
Pwrpas: Lleihau baich darllen!
- Cadwch at bwyntiau allweddol.
- Defnyddiwch eiriau bob dydd sy'n gyfarwydd ac yn hawdd eu deall.
- Cadwch frawddegau yn fyr, anelu at tua 12 i 15 gair i bob brawddeg.
- Defnyddiwch 1 syniad neu bwnc fesul paragraff.
- Ysgrifennwch yn y llais gweithredol, er enghraifft – os ydych chi angen help, ffoniwch ni!
2. Esboniwch eiriau pwysig neu anodd
Pwrpas: Gwneud ystyr yn glir i fwy o ddarllenwyr.
- Esboniwch unrhyw eiriau nad yw'r darllenydd efallai yn eu gwybod.
- Osgoi jargon ac iaith dechnegol.
- Peidiwch â chymryd gwybodaeth flaenorol yn ganiataol.
Os ydych chi'n cael trafferth, ceisiwch ddod o hyd i ffordd i esbonio gair anodd na allwch ei osgoi:
- Gwirio cyfystyron
- Defnyddiwch Google!
- Edrychwch ar wybodaeth ddiweddar, sy'n bodoli eisoes yn Hawdd ei Ddeall – gallwch weld ein gwybodaeth ni yma: Gwaith Diweddar
- Defnyddiwch ein geiriadur geiriau anodd
3. Cynllunio strwythur clir
Pwrpas: Helpu darllenwyr i ddilyn y wybodaeth yn hawdd.
- Trefnwch eich cynnwys mewn strwythur rhesymegol a hawdd ei ddilyn.
- Defnyddiwch adrannau clir, fel pwy ysgrifennodd y ddogfen, ar gyfer pwy mae'r ddogfen, beth mae'n drafod, beth nesaf.
- Mae penawdau clir yn helpu darllenwyr i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym ac yn gwneud dogfennau hirach yn haws i'w dilyn.
4. Defnyddio ffontiau darllenadwy
Pwrpas: Gwella darllenadwyedd.
- Defnyddiwch un ffont clir drwy'r ddogfen. Defnyddiwch ffont sans serif fel Arial, Century Gothic neu FS Me Pro.
- Defnyddiwch o leiaf maint ffont 16 pwynt ar gyfer Hawdd ei Ddeall. Os ydych chi'n ysgrifennu ar gyfer pobl sy'n defnyddio print bras, defnyddiwch o leiaf 20.
5. Pwysleisio'r testun yn glir
Pwrpas: Amlygu gwybodaeth allweddol heb ddryswch.
- Use Defnyddiwch destun trwm i amlygu geiriau pwysig.
- Defnyddiwch bwyntiau bwled, rhestrau neu flychau testun.
- Peidiwch â defnyddio Italig na PRIFLYTHRENNAU BLOC.
6. Defnyddio delweddau i gefnogi ystyr
Pwrpas: Atgyfnerthu dealltwriaeth.
- Defnyddiwch ddelwedd clawr sy'n helpu i esbonio beth yw'r ddogfen.
- Defnyddiwch ddelweddau sy'n cyd-fynd â'ch testun wrth ymyl pob paragraff. Dylai delweddau roi awgrym neu syniad da i ddarllenwyr am yr hyn y mae'r testun ar fin ei ddweud.
- Defnyddiwch ddelweddau o ansawdd uchel, sy'n glir i'w gweld, pan fyddant yn cael eu hargraffu a'u gweld yn ddigidol.
- Defnyddiwch lyfrgelloedd delweddau dibynadwy. Mae rhai yn opsiynau taledig a rhai am ddim. Enghreifftiau o opsiynau taledig: Photosymbols, Adobe Stock, Shutterstock, Unsplash, Pexels
7. Defnyddio cyferbyniad lliw cryf
Pwrpas: Gwella darllenadwyedd i bawb.
- I'r rhan fwyaf o bobl, testun du ar gefndir gwyn neu welw yw'r mwyaf hygyrch.
- Gallwch ddefnyddio lliwiau hygyrch eraill. Defnyddiwch wiriwr cyferbyniad lliw i brofi cymhareb cyferbyniad eich lliw cefndir a blaendir ar gyfer hygyrchedd.
8. Cadwch eich dyluniad yn syml ac yn hawdd ei ddefnyddio
Pwrpas: Lleihau anhrefn gweledol.
- Defnyddiwch lawer o le gwyn rhwng paragraffau ac ymylon, a bylchau llinellau hael.
- Aliniwch yr holl destun i'r chwith bob amser.
- Dylid gosod delweddau ategol i'r chwith o'r testun.
- Peidiwch â defnyddio tablau cudd ar gyfer dyluniad – maen nhw'n drysu hygyrchedd digidol dogfen.
- Darllenwch ein Llawlyfr Clir a Hawdd am awgrymiadau dylunio.
9. Gwneud eich dogfen yn hygyrch o'r cychwyn cyntaf
Pwrpas: Adeiladu hygyrchedd yn eich ymarfer gwaith o ddydd i ddydd.
- Mae meddwl am hygyrchedd o'r dechrau yn arbed amser ac adnoddau ac yn cynnwys pawb.
- Bydd gwybod pwy yw eich cynulleidfa a ble y byddant yn cael y wybodaeth yn eich helpu i gyrraedd y bobl sydd eu hangen arnoch.
- Mae angen i wybodaeth printiedig fod â delweddau cydraniad uchel a dylai fod yn hawdd dod o hyd iddynt neu ofyn amdanynt.
- Mae angen i wybodaeth ddigidol weithio'n dda i bobl sy'n defnyddio gwahanol fathau o dechnoleg gynorthwyol, fel darllenwyr sgrin, chwyddwydrau neu lywio bysellfwrdd.
- Gwnewch yn siŵr bod gan eich dogfen strwythur pennawd clir ac yn cael ei hallforio fel PDF hygyrch lle bo hynny'n briodol.
10. Profwch eich dogfen gyda phobl
Pwrpas: Sicrhau dealltwriaeth yn y byd go iawn.
- Gofynnwch i bobl ddarllen a phrofi eich ysgrifennu a'ch dyluniad. Gallech ofyn i'ch cydweithwyr wirio eich gwaith.
- Pryd bynnag y bo'n bosibl, gallwch gynnwys pobl ag anabledd dysgu. Mae eu profiad byw yn darparu adborth gwerthfawr y gall eraill ei golli. Talwch bobl yn deg am eu hamser a'u harbenigedd. Cynlluniwch amser ar gyfer ymgynghori!
- Defnyddiwch offer fel Check it! Check it! yn rhan o'n Llawlyfr Clir a Hawdd.
Awgrym bonws: Cael cymorth arbenigol pan fydd ei angen arnoch
Mae creu Hawdd ei Ddeall o ansawdd uchel yn cymryd sgiliau ysgrifennu, dylunio a hygyrchedd arbenigol. Os nad ydych chi'n siŵr ble i ddechrau, gall tîm Hawdd ei Ddeall profiadol helpu gyda chynllunio, ysgrifennu, dylunio neu adolygu'ch dogfennau. Gallwn eich cefnogi i ysgrifennu cynnwys Hawdd ei Ddeall neu gallwn ei wneud i chi. Peidiwch ag anghofio edrych ar ein hadnoddau am ddim: Adnoddau
Pam mae Hawdd ei Ddeall yn bwysig
Rydym yn clywed yn rheolaidd gan bobl ag anabledd dysgu bod yn well ganddynt wybodaeth mewn fformat Hawdd ei Ddeall.
Mae ymchwil yn dangos bod tua 1.5 miliwn o bobl ag anabledd dysgu yn y DU. Mae hynny'n llawer o bobl a allai gael eu heithrio pan nad yw gwybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd hygyrch.
Yn Hawdd ei Ddeall Cymru, rydym yn credu'n gryf bod gan bawb yr hawl i ddeall gwybodaeth, yn enwedig gwybodaeth a allai effeithio ar fywydau pobl.
Mae Hawdd ei Ddeall yn helpu pobl i:
- Deall gwybodaeth yn haws.
- Gwneud dewisiadau gwybodus.
- Teimlo'n fwy cynhwysol ac annibynnol.
Mewn rhai achosion, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i sefydliadau ddarparu gwybodaeth hygyrch, gan gynnwys Hawdd ei Ddeall, o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Trwy fwy nag 20 mlynedd o greu dogfennau Hawdd ei Ddeall, rydym wedi gweld newid cadarnhaol yn y ffordd y mae pobl yn meddwl am Hawdd ei Ddeall wrth ddarparu unrhyw wybodaeth.
Mae mwy o sefydliadau a gwasanaethau yn cydnabod pwysigrwydd gwneud eu gwybodaeth yn haws ac yn fwy hygyrch i bobl. Gallwch weld peth o'n gwaith Hawdd ei Ddeall diweddar yma: Gwaith Diweddar.
Beth i'w wneud nesaf
Mae creu dogfen Hawdd ei Ddeall yn cymryd amser, gofal a sylw i fanylion. Rydym yn gobeithio bod y 10 awgrym a'r syniadiau yn y blog hwn wedi dangos i chi beth i ganolbwyntio arno fwyaf.
Mae'r dogfennau Hawdd ei Ddeall mwyaf effeithiol yn cael eu datblygu gyda phobl a fydd yn eu defnyddio mewn gwirionedd. Pryd bynnag y bo'n bosibl, cynhwyswch bobl ag anabledd dysgu yn eich proses.
Dolenni defnyddiol
Adnoddau gan Hawdd ei Ddeall Cymru:
Adnoddau Hawdd ei Ddeall Am Ddim
Adnoddau hygyrchedd:
Angen cefnogaeth?
Os hoffech gefnogi creu neu wella dogfennau Hawdd ei Ddeall, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
E-bostiwch ni yn [email protected].
P'un a ydych chi angen cyngor, adolygiadau dogfennau neu brosiectau Hawdd ei Ddeall wedi'u cynllunio'n llawn, rydym yn hapus i'ch helpu i wneud eich gwybodaeth yn gliriach ac yn fwy hygyrch.