Beth ydy Hawdd ei Ddeall?

Gweld tudalen Hawdd ei Ddeall

Mae Hawdd ei Ddeall yn fformat cydnabyddedig, hygyrch o wybodaeth ysgrifenedig.

Mae wedi'i gynllunio ar gyfer, a gyda phobl ag anabledd dysgu, ond mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer:

  • pobl sy'n siarad Cymrage neu Saesneg fel ail iaith
  • pobl sy'n ei chael hi'n anodd darllen ac ysgrifennu
  • pobl â chyflyrau sy'n effeithio ar sut maen nhw'n prosesu gwybodaeth, fel Dementia.

Enghreifftiau o'n gwaith diweddar

2 people sat reading an Easy Read booklet

Mae Hawdd ei Ddeall yn fwy na thestun syml yn unig

Mae Hawdd ei Ddeall yn defnyddio iaith sgwrsio syml mewn brawddegau byr, clir i ddadansoddi gwybodaeth. Ond mae'n fwy na dim ond testun clir.

Rhan bwysig o Hawdd ei Ddeall yw'r defnydd o ddelweddau ategol a dyluniad clir.

Defnyddiau Hawdd ei Ddeall:

  • Brawddegau byr - Mae pob brawddeg yn rhannu un syniad yn unig. Mae hyn yn helpu darllenwyr i ganolbwyntio a dilyn y neges yn hawdd.
  • Iaith syml – Geiriau clir, bob dydd. Osgoi jargon, termau technegol, neu ymadroddion cymhleth, ac esbonio'r rhai na allwch eu hosgoi.
  • Delweddau ategol - Defnyddir lluniau neu eiconau i esbonio ac atgyfnerthu'r testun. Maent yn helpu i ddeall ac yn helpu i esbonio'r cynnwys.
  • Cynllun darllenadwy - Dylai testun fod mewn ffont mawr, hawdd ei ddarllen, gyda digon o ofod gwyn a dyluniad glân, clir. Mae hyn yn gwneud darllen yn llai blinedig ac yn haws.
Woman holding an Easy Read booklet

Mae'n bwysig:

  • Ystyried eich cynulleidfa darged, gan gynnwys oedran a lleoliad. Defnyddiwch fi, ni neu chi a chyfleu gwybodaeth yn uniongyrchol â'r darllenydd.
  • Deall anghenion cyfathrebu gwahanol a'r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn prosesu gwybodaeth. Gall pethau fel ychwanegu gwybodaeth gefndir a defnyddio ailadrodd leihau'r angen i groesgyfeirio o fewn y ddogfen, ac o'r ddogfen i fywyd go iawn.
  • Adnabod negeseuon allweddol a strwythuro gwybodaeth yn rhesymegol.
  • Defnyddio delweddau ystyrlon sy'n gynrychioliadol o'r gynulleidfa darged a/neu gynnwys.
  • Defnyddio dylunio i leihau baich darllen. Gall pethau fel cael llawer o ofod gwyn rhwng paragraffau helpu pobl a allai gael trafferth gyda chanolbwyntio, cof, neu ffocws.
  • Gwirio eich gwybodaeth gyda'ch cynulleidfa!

Mae Hawdd ei Ddeall yn fy helpu i ddeall gwybodaeth yn well a gallaf brosesu gwybodaeth yn haws. Er enghraifft, pan fyddaf yn mynd i gyfarfodydd, mae gwybodaeth hawdd ei ddeall yn fy helpu i ddeall beth ydy'r cyfarfod ac mae llai o jargon - Georgia M

Safonau Hawdd ei Ddeall

Ar hyn o bryd nid oes safon gyfreithiol ar gyfer Hawdd ei Ddeall. Rydym yn gweithio gyda Gweithgor Safonau Hawdd ei Ddeall yn y DU i newid hyn. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn ar ein tudalen LinkedIn, a thrwy ein blogiau.

Yn 2012 buom yn gweithio gyda Mencap Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i gynhyrchu Clir a Hawdd, llawlyfr ar gyfer gwneud gwybodaeth ysgrifenedig yn hawdd ei darllen a'i deall i bobl ag anabledd dysgu.

Darllenwch ein llawlyfr Clir a Hawdd

Rydym yn dilyn y safonau a nodir yn Clir a Hawdd wrth greu ein gwybodaeth Hawdd ei Ddeall. Yn bwysicaf oll, rydym yn gwirio bod ein Hawdd ei Ddeall yn gweithio i bobl ag anabledd dysgu drwy ei wirio gyda nhw.

Cover of Clear and Easy guide

Pam mae Hawdd ei Ddeall yn bwysig

Mae'r hawl i wybodaeth hygyrch wedi'i sefydlu yn y gyfraith, gan gynnwys:

  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD).

Mae hyn yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar lawer o sefydliadau i ddarparu gwybodaeth hygyrch, fodd bynnag, mae gwybodaeth hygyrch yn fwy na gofyniad cyfreithiol yn unig.

Mae'n dda i chi a'ch sefydliad, mae'n eich helpu chi:

  • Egluro negeseuon allweddol a symleiddio prosesau i bawb.
  • Lleihau camddealltwriaeth
  • Ymgysylltu'n fwy effeithiol â phobl

Yn bwysicaf oll, mae'n dda i bobl. Mae gwybodaeth hygyrch yn helpu pobl i:

  • Bod yn fwy annibynnol.
  • Cael mynediad at wasanaethau fel iechyd, gofal ac addysg.
  • Cymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.
  • Bod yn rhan weithgar o'u cymuned a'u gweithle.

Rwyf wedi defnyddio taflenni, llythrennau yn Hawdd ei Ddeall. Maen nhw’n dda i bobl ag anableddau dysgu, gan eu bod yn hawdd eu darllen. Y rhan orau o Hawdd ei Ddeall ydy nad oes jargon. Fe ddylid defnyddio Hawdd ei Ddeall mewn llwyth o wahanol leoedd fel ysbytai, deintyddion. Gallaf ddod o hyd I beth rydw’i angen yn gyflym – Sarah T

Gwneud eich gwybodaeth yn hygyrch

Gall creu dogfennau Hawdd eu Deall eich hun fod yn anodd. Mae dewis y geiriau cywir, defnyddio cynlluniau clir, ac ychwanegu delweddau defnyddiol yn cymryd amser a phrofiad.

Gweler ein hadnoddau am offer hyfforddi, canllawiau ac awgrymiadau a all eich helpu i wneud eich gwybodaeth yn fwy hygyrch.

Rydym yma i'w gwneud hi'n haws. Gallwn greu eich Hawdd ei Ddeall i chi, fel bod eich gwybodaeth yn glir, yn broffesiynol ac yn hawdd ei ddeall.

Os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw beth, cysylltwch â nirydym yma i helpu.

 

 

Hawdd ei Ddeall ydy gwybodaeth ysgrifenedig sy'n haws i'w ddarllen a'i ddeall.

 

Mae'r rheolau ar gyfer Hawdd ei Ddeall wedi'u gwneud ar gyfer a gyda phobl ag anabledd dysgu.

 

Ein gwaith diweddar

Checking Easy Read Yes

Mae Hawdd ei Ddeall hefyd yn helpu:

 

  • pobl sy'n siarad Cymrage neu Saesneg fel ail iaith
  • pobl sy'n ei chael hi'n anodd darllen ac ysgrifennu
  • pobl â chyflyrau sy'n effeithio ar sut maen nhw'n deall gwybodaeth, fel Dementia.
Group 43 Diverse 5 Adults Crutch Wheelchair Mixed

Mae Hawdd ei Ddeall yn fwy na thestun syml yn unig

 

Mae Hawdd ei Ddeall yn defnyddio geiriau clir, syml a brawddegau byr.

 

Ond mae'n fwy na dim ond geiriau hawdd. Mae delweddau a dyluniad da hefyd yn eich helpu i ddeall y wybodaeth.

Words Young Blank

 

Defnyddiau Hawdd ei Ddeall:

 

  • Geiriau rydych chi'n eu defnyddio mewn bywyd bob dydd
  • Brawddegau byr
  • Delweddau i'ch helpu chi i ddeall
  • Dyluniad sy'n glir ac yn hawdd i'w ddilyn
Advice 2 Blank

Safonau Hawdd ei Ddeall

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Gweithgor Safonau Hawdd ei Ddeall yn y DU i wneud safonau

 

Rydyn ni eisiau i bawb gytuno ar y safonau a'u dilyn. Felly mae pawb yn gwybod sut olwg sydd ar Hawdd ei Ddeall da.

 

Mae mwy o wybodaeth am y gwaith yma ar ein tudalen LinkedIn, ac ar y wefan yma.

Working Together Services

 

Yn 2012 fe wnaethon ni ein canllaw ein hunain i helpu pobl i wneud gwybodaeth yn Hawdd ei Ddeall.

 

Darllenwch ein llawlyfr Clir a Hawdd

 

Rydyn ni’n dilyn y canllaw yma wrth wneud Hawdd ei Ddeall.

 

Rydyn ni’n edrych dros ein gwaith gyda phobl ag anabledd dysgu.

 

Clear And Easy Cover

Pam mae Hawdd ei Ddeall yn bwysig

 

Mae'r gyfraith yn dweud bod gennych chi hawl i gael gwybodaeth rydych chi’n gallu ei ddeall.

 

Mae Hawdd ei Ddeall yn helpu sefydliadau a gwasanaethau i weithio gyda phobl.

 

Mae'n helpu pobl i ddeall pethau fel apwyntiadau iechyd a'r gwasanaethau y dylen nhw eu cael.

 

Mae'n helpu pobl i wneud dewisiadau, cymryd rhan, a byw y bywyd maen nhw ei eisiau.

Good Information 2
cyWelsh