Cyngor Caerdydd –Canllaw Hawdd ei Ddeall i'ch cerdyn pleidleisio
Awst 2026 | Gwybodaeth i helpu pobl i ddeall eu cerdyn pleidleisio.
Fe wnaethom weithio gyda Chyngor Caerdydd i greu fersiwn hawdd ei ddeall o'u canllaw ar gardiau pleidleisio, gan helpu pobl ag anabledd dysgu i ddeall gwybodaeth bwysig am bleidleisio.
Mae'r canllaw yn esbonio beth yw cerdyn pleidleisio a beth mae'r gwahanol adrannau yn ei olygu. Mae'n defnyddio enghraifft o gerdyn pleidleisio gwag i ddangos ble i ddod o hyd i wybodaeth am yr etholiad, ardal bleidleisio, diwrnod yr etholiad, oriau pleidleisio, a'r orsaf bleidleisio.
Mae hefyd yn esbonio beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n mynd i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Mae hyn yn cynnwys sut i ofyn am help, beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cyrraedd, sut i farcio eich papur pleidleisio, a beth i'w wneud os ydych chi'n gwneud camgymeriad.
Mae'r canllaw yn ymdrin â ffyrdd eraill o bleidleisio, gan gynnwys pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio a sut i gysylltu â'r cyngor os oes angen help ar rywun.
Ochr yn ochr â hyn, gwnaethom lyfryn Hawdd ei Ddeall tebyg am y cerdyn pleidleisio post. Mae hyn yn esbonio beth yw cerdyn pleidleisio post a beth sydd angen i bobl ei wneud os ydyn nhw'n pleidleisio drwy'r post.
Drwy wneud y wybodaeth hon yn haws i'w deall, fe wnaethom helpu Cyngor Caerdydd i wneud gwybodaeth bleidleisio bwysig yn fwy hygyrch. Gall y canllawiau helpu pobl ag anabledd dysgu i deimlo'n fwy gwybodus a hyderus ynglŷn â chymryd rhan mewn etholiadau yn y dyfodol.
Fe wnaethom hefyd greu fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o'r llyfryn. Mae'r ddwy fersiwn yn hygyrch yn ddigidol ac wedi'u cynllunio i weithio gyda darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.
Pwyswch y botwm coch Gweld a lawrlwytho'r adnodd hwn i agor PDF hygyrch y canllaw Hawdd ei Ddeall.
I gael rhagor o wybodaeth am bleidleisio yng Nghaerdydd, ewch i wefan Cyngor Caerdydd.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: [email protected].