Llywodraeth Cymru –Adroddiad Gwella System Fudd-daliadau Cymru Hawdd ei Ddeall

Gorffennaf 2026 | Beth sydd wedi'i wneud hyd yma i wella system fudd-daliadau Cymru.

Buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu fersiwn hawdd ei ddeall o'u hadroddiad ar wella system fudd-daliadau Cymru.

Mae'r adroddiad yn esbonio'r cynnydd a wnaed hyd yma i'w gwneud hi'n haws i bobl ledled Cymru gael mynediad at y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae'n canolbwyntio ar wella tri budd-dal: Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor, Prydau Ysgol Am Ddim, a'r Grant Hanfodion Ysgol.

Mae'r adroddiad yn archwilio sut mae gwahanol gynghorau lleol yn darparu budd-daliadau ar hyn o bryd. Mae hefyd yn dangos ffyrdd o wneud y broses ymgeisio yn symlach, yn gliriach ac yn fwy cyson.

Mae'n argymell rhannu gwybodaeth well, lleihau cwestiynau dro ar ôl tro, defnyddio un ffurflen gais ar-lein, a gwneud gwasanaethau yn haws i'w cyrchu.

The report also explains the importance of putting people first. It suggests making information easier to understand and improving support during the benefits application process. These changes aim to reduce barriers, help more people get the financial support they are entitled to, and create a fairer, more accessible benefits system.

Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o'r adroddiad. Mae'r ddwy fersiwn yn hygyrch yn ddigidol ac wedi'u cynllunio i weithio gyda darllenwyr sgrin a thechnolegau cynorthwyol eraill.

Pwyswch y botwm coch Gweld a lawrlwythwch yr adnodd hwn i agor PDF hygyrch yr adroddiad Hawdd ei Ddeall.

I gael rhagor o wybodaeth am wella system fudd-daliadau Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru..

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: [email protected].

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma

cyWelsh