Mae Hawdd ei Ddeall Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer gwneud gwybodaeth yn hawdd ei darllen a'i deall i bobl ag anabledd dysgu sy'n siarad Cymraeg.

Mae'r canllawiau wedi'u bwriadu ar gyfer awduron a chyfieithwyr deunyddiau Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg, ac unrhyw un sy'n comisiynu gwaith Hawdd ei Ddeall.

Yn aml nid yw Saesneg Hawdd ei Ddeall yn hawdd I’w gyfieithu i Gymraeg Hawdd ei Ddeall. Bydd y canllawiau hyn yn helpu i sicrhau bod dogfennau Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg o safon uchel.

Mae'r canllawiau dwyieithog i'w gweld yma:

Ysgrifennwyd y canllawiau gan Eluned Jones, awdur a chyfieithydd hawdd ei ddeall profiadol a Hawdd ei Ddeall Cymru. Cafwyd cefnogaeth gan staff Comisiynydd y Gymraeg, cyfieithwyr Hawdd ei Ddeall eraill a phobl ag anabledd dysgu.